Mwy o Newyddion
Marw rheolwr cynllun Gorsaf Bŵer Dinorwig
Roedd parch mawr i waith y peiriannydd a rheolwr Iorwerth Ellis a fu farw dros y Sul yn 87 oed. Wedi bod yn gweithio i’r Bwrdd Canolog Cynhyrchu Trydan am 25 mlynedd daeth yn ôl o Lundain i fod yn gyfrifol am y gwaith arloesol ar gynllun trydan dŵr Dinorwig, yr un mwyaf o’i fath yn Ewrop.
Roedd yn enedigol o Harlech a threuliodd 25 mlynedd yn gweithio i’r Bwrdd y tu allan i Gymru. Penodwyd ef yn gyfrifol am y gwaith yn Llanberis yn 1974 wedi iddo fod yn gweithio yn adran De Lloegr o’r Bwrdd. Bu’n gysylltiedig â chynllunio, adeiladu, ymchwil a datblygu gorsafoedd cynhyrchu trydan mewn gwahanol rannau o Gymru a Lloegr. Oherwydd ei fod yn frodor o Wynedd symudodd i fod yn rheolwr y cynllun yn Ninorwig oedd yn defnyddio’r hen chwarel a dau lyn, Marchlyn Mawr a Peris.
Roedd yn uchel ei barch fel peiriannydd a rheolwr ac ef oedd yn bennaf cyfrifol am lwyddiant y gwaith yn Llanberis a gostiodd £110 miliwn yn y saithdegau. Golygodd greu deng milltir o dwnelau dan ddaear yng nghrombil mynydd Elidir, defnyddio 1 miliwn o dunelli o goncrid, 200,000 tunnell o sment a 4,500 tunnell o ddur.
Mae’r chwech generadur nerthol sy’n cynhyrchu trydan wedi eu gosod yn y ceudwll mwyaf yn Ewrop a wnaed gan ddyn. Wrth ymyl mae’r siambr sy’n rheoli’r dŵr drwy’r tyrbeini. Pan fydd y galw mae’n bosibl dechrau cynhyrchu trydan mewn un eiliad ar bymtheg.
Ym Mangor y bu Mr Ellis yn byw tra’r oedd y gwaith yn mynd rhagddo. Bu’n byw yno wedi ymddeol a chollodd ei wraig ddeng mlynedd yn ôl. Roedd ganddynt dri o blant.