Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Ionawr 2016

Rhybudd ynghylch llifogydd arfordirol

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn annog pobl gymryd gofal gan allai tonnau mawr a llanw uchel achosi rhywfaint o lifogydd o amgylch arfordir gogledd Cymru.

Rhagwelir y bydd y tonnau mwyaf yn taro arfordiroedd Sir Ddinbych a Chonwy a gogledd a dwyrain Sir Fôn yn gynnar prynhawn ddydd Mawrth.

Dywedodd Rick Park, Rheolwr Tactegol ar Ddyletswydd CNC: “Gall tonnau mawr effeithio a heolydd arfordirol, promenadau ac adeiladau y ystod y prynhawn a rydym yn gofyn pobol i fod yn wyliadwrus a chmeryd ofal, yn arbennig yn ystod adeg llanw uchel rhwng 10.30 am a 2pm.”

Mae rhybuddion llifogydd i’w gweld ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru   https://naturalresources.wales/4043.aspx?lang=cy sy’n cael ei ddiweddaru bob 15 munud.

Hefyd gellid dod o hyd i wybodaeth a diweddariadau drwy ffonio llinell Floodline ar 0345 988 1188.

Rhannu |