Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Ionawr 2016

Horizon yn cyhoeddi dyddiad cam nesaf ymgynghoriad Wylfa Newydd

Mae Pŵer Niwclear Horizon wedi cyhoeddi gwybodaeth heddiw am y cyfle nesaf i bobl gael dweud eu dweud am yr orsaf bŵer newydd gwerth biliynau o bunnoedd sy’n cael ei chynnig ar Ynys Môn.

Bydd y cwmni ynni’n cynnal cam nesaf ei ymgynghoriad cymunedol o ddydd Llun 25 Ionawr 2016 ymlaen, gan gynnal cyfres o ddigwyddiadau drwy gydol dechrau’r gwanwyn.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn parhau â'r gwaith sydd wedi cael ei wneud gan Horizon ers cam cyntaf ei ymgynghoriad mawr yn 2014 ac mae’n gyfle arall i bobl weld ei gynlluniau diweddaraf a rhoi adborth ar ei gynigion. Bydd ail ymgynghoriad mwy yn cael ei gynnal yn nes ymlaen yn ystod y flwyddyn.

Dywedodd Alan Raymant, Prif Swyddog Gweithredu yn Horizon: “Bydd Wylfa Newydd yn arwain at fanteision a fydd yn para am genedlaethau, gan gynnwys swyddi i bobl leol a hwb i’r economi leol. Rydyn ni hefyd yn cydnabod y bydd prosiect o’r maint hwn yn effeithio ar y gymuned felly rydyn ni’n awyddus i sicrhau bod llais y gymuned yn gallu dylanwadu ar ein cynigion cyn iddyn nhw gael eu llunio’n derfynol.

“O fis Ionawr ymlaen byddwn ni’n cynnal digwyddiadau gwybodaeth cyhoeddus ac yna cyfres o gyfarfodydd ar ffurf grwpiau ffocws a fydd yn edrych ar y rhannau o’n prosiect rydyn ni’n gwybod sydd bwysicaf yn lleol, gan gynnwys y Gymraeg a’n cynlluniau ar gyfer llety i weithwyr. Rydyn ni’n gobeithio y bydd trigolion yn dal i roi eu hadborth i ni am y prosiect ac yn helpu i siapio Wylfa Newydd cyn i ni gyflwyno ein cynigion llawn a therfynol yn nes ymlaen yn 2016.”

Bydd gwybodaeth ar gael ar wefan y cwmni, www.horizonnuclearpower.com/ymgynghoriad, o ddydd Llun 25 Ionawr ymlaen a bydd y dogfennau hefyd ar gael yn holl lyfrgelloedd Ynys Môn

Bydd digwyddiad cyhoeddus cyntaf Horizon yn cael ei gynnal ddydd Gwener 29 Ionawr, yn agos at safle arfaethedig yr orsaf bŵer ac wedyn cynhelir cyfres o ddigwyddiadau ar draws yr Ynys, yn ogystal ag yng Ngwynedd ac yng Nghonwy.

Bydd pob digwyddiad yn cael cyhoeddusrwydd yn y cyfryngau lleol ac ar Môn FM, gorsaf radio gymunedol Ynys Môn.

Dyma raglen digwyddiadau cymunedol Horizon:

Dydd Gwener 29 Ionawr Clwb Cymdeithasol a Chwaraeon Wylfa 11am i 2pm a 4pm i 7pm

Dydd Sadwrn 30 Ionawr Neuadd y Dref Llangefni 10am i 1pm

Dydd Mawrth 2 Chwefror Neuadd Bentref Llanfachraeth11am i 2pm a 4pm i 7pm

Dydd Mercher 3 Chwefror Canolfan Ucheldre, Caergybi11am i 2pm a 4pm i 7pm

Dydd Gwener 5 Chwefror Neuadd Goffa Amlwch 11am i 2pm a 4pm i 7pm

Dydd Sadwrn 6 Chwefror Neuadd Bentref Cemaes10am i 1pm

Dydd Mawrth 9 Chwefror Valley Hotel11am i 2pm a 4pm i 7pm

Dydd Mercher 10 Chwefror Canolfan Gymunedol Goffa'r Rhyfel Porthaethwy 11am i 2pm a 4pm i 7pm

Dydd Mercher 24 Chwefror Gwesty'r Celtic Royal, Caernarfon,11am i 2pm a 4pm i 7pm

Dydd Iau 25 Chwefror Neuadd Eglwys St Mary’s, Conwy,11am i 2pm a 4pm i 7pm

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Richard Foxhall – 07807 769265 neu richard.foxhall@horizonnuclearpower.com

Rhannu |