Mwy o Newyddion
Mae angen 500 mwy o ofalwyr maeth yn ystod 2016 yng Nghymru
Mae angen 500 o deuluoedd maethu newydd yng Nghymru yn ystod 2016 i sicrhau y darperir cartrefi sefydlog, diogel a llawn cariad i blant mewn gofal maeth, yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd heddiw gan Y Rhwydwaith Maethu.
Yn ychwanegol at y 500 o deuluoedd maeth sydd eu hangen yng Nghymru, mae angen 7,600 o deuluoedd maeth yn Lloegr, 800 yn yr Alban, a 170 yng Ngogledd Iwerddon. Golyga hyn bod angen dros 9,000 o deuluoedd maethu ledled y Deyrnas Unedig i gyd yn 2016 i roi cartrefi llawn cariad ac amgylcheddau teuluol cynhaliol i blant.
Yn neilltuol, mae yna angen parhaus ac angen brys am fwy o deuluoedd maeth i ddarparu cartrefi i bobl ifanc yn eu harddegau, i blant anabl, i blant ceiswyr lloches ar eu pen eu hunain, ac i grwpiau brodyr a chwiorydd.
Mae llawer o ofalwyr maeth sy’n dewis maethu’r grwpiau hyn, y credir yn draddodiadol eu bod yn ‘anodd eu lleoli’, wedi bwrw sylw ar mor fuddiol yw’r profiad ac mor dda y mae’u gwasanaeth maethu wedi’u cefnogi i ddatblygu ac i esblygu’u sgiliau cyfredol er mwyn rhoi cartref i blant na allai fyw gyda’u teulu biolegol.
Er gwaethaf yr alwad am fwy o deuluoedd maeth, mae gan yr holl blant sydd angen teulu maeth deulu maeth. Fodd bynnag, oni ddaw mwy o deuluoedd maeth i’r golwg yn ystod 2016, bydd rhai plant yn eu cael eu hunain yn byw ymhell o’u teulu, eu hysgol a’u chyfeillion, gan gael eu gwahanu oddi wrth frodyr a chwiorydd, neu gael eu lleoli gyda gofalwr maeth nad oes ganddo’r sgiliau cywir a’r profiad i ddiwallu’u hanghenion penodol. Mae yna wedyn risg sylweddol y bydd lleoliad plentyn yn chwalu, gan darfu rhagor ar blentyndod sydd eisoes yn drawmatig.
Dengys ffigurau fod dau o bob pump (40 y cant) o bobl ifanc yn eu harddegau sydd wedi’u maethu eisoes yn byw gyda’u trydydd teulu maeth ers iddynt ddod i ofal, ac mae un o bob 20 (pump y cant) o bobl ifanc yn eu harddegau yn byw gyda’u degfed teulu mewn gofal maeth.
 nifer cynyddol o blant yn dod i ofal, a chydag oddeutu 12 y cant o ofalwyr maeth yn ymddeol neu’n gadael maethu ‘llynedd, mae angen nid yn unig recriwtio mwy o ofalwyr maeth, ond hefyd ddefnyddio’n well y pwll cyfredol o ofalwyr maeth i ddiwallu yn y modd gorau anghenion y plant a’r bobl ifanc mewn gofal maeth.
Dywedodd Kevin Williams, Prif Weithredwr Y Rhwydwaith Maethu: “Mae gofalwyr maeth yn cyflawni dyletswydd anhepgor ar ran y wladwriaeth, dyletswydd sy’n gwirioneddol wasanaethu’r gymuned gyfan yng Nghymru.
“Mae’u gwaith yn cyfrannu nid yn unig at gymdeithas yn awr, ond hefyd yn y degawdau fydd yn dod wrth i’r bobl ifanc sy’n byw yn eu gofal dyfu i annibyniaeth ac yn eu tro yn dod yn oedolion positif sy’n dychwelyd y gymwynas i gymdeithas. Rhydd gofalwyr maeth y cyfle i blant gael y plentyndod y maent yn ei haeddu, plentyndod na fyddent efallai wedi’i gael fel arall.
“Drwy recriwtio mwy o deuluoedd maethu, gallwn ddarparu’r dewis eang o deuluoedd maeth potensial sydd eu hangen fel y caiff pob plentyn y cyfle gorau o gael ei baru â gofalwr maeth a all ddiwallu’i anghenion y tro cyntaf.
"Bydd darpar ofalwyr maeth yn derbyn hyfforddiant a chefnogaeth gan eu gwasanaeth maethu, ond cyn y byddant hyd yn oed yn dechrau ar y broses, mae arnynt angen ystod o sgiliau a rhinweddau, yn cynnwys amynedd, y gallu i wrando, eu bod yn gallu gweithio fel rhan o dîm ac yn hyrwyddo ar ran plentyn, synnwyr digrifwch a llawer mwy drachefn.
“Byddem yn annog pawb sy’n awyddus i ddysgu mwy am faethu i ymweld â couldyoufoster.org.uk, i ganfod eu gwasanaeth maethu lleol, ac i gysylltu â nhw i ganfod a allant faethu.”