Mwy o Newyddion
Angen sicrwydd cadarn ar waith i atal llifogydd pellach yng ngogledd Cymru medd AS Plaid Cymru
Mae AS Plaid Cymru Liz Saville Roberts wedi galw ar lywodraeth y DU i roi pwysau ar Lywodraeth Lafur Cymru i sicrhau bod cyllid digonol ar gael fel y gall gwaith ddechrau i wella mesurau lliniaru llifogydd ar yr A55 yng Ngogledd Cymru cyn gynted a phosib.
Wrth siarad yn ystod datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin ar y llifogydd diweddar, dywedodd Liz Saville Roberts AS bydd Plaid Cymru yn pwyso am y dosbarthiad teg o unrhyw arian er mwyn i gymunedau ar draws Cymru sydd wedi dioddef yn sgil y llifogydd diweddar, dderbyn iawndal priodol.
Meddai: “Mae arnom angen sicrwydd pendant gan Lywodraeth Cymru y bydd unrhyw gymorth ariannol yn cael ei gyfeirio i'r cymunedau hynny sydd wedi dioddef fwyaf, gan roi blaenoriaeth i ardaloedd sydd wedi dwyn baich y llifogydd, fel yr A55 ar hyd arfordir Gogledd Cymru.
"Mae'r A55 yn hanfodol bwysig; gan ffurfio cyswllt economaidd hanfodol rhwng Gogledd Cymru ac Ewrop drwy Euroroute E22.
"Mae'n cysylltu llwybrau fferi uniongyrchol Iwerddon a Gogledd Cymru ac ymlaen i Ewrop a Dwyrain Rwsia.
"Er gwaethaf galwadau parhaus gan Blaid Cymru, methodd Llywodraeth Lafur Cymru i gynnal gwaith atal llifogydd hanfodol ar yr A55 a allai fod wedi lliniaru effaith y llifogydd diweddar.
"Rwy'n gofyn i'r Gweinidog gadarnhau y byddant yn rhoi pwysau ar Brif Weinidog Cymru i sicrhau arian digonol a dyddiad dechrau ar y gwaith hanfodol i sicrhau bod yr A55 yn cael ei gadw’n glir o lifogydd, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae llifogydd yn dueddol o fod ar ei waethaf megis Talybont yng Ngwynedd.”