Mwy o Newyddion
Blwyddyn Newydd Dda i Ŵyl Tafwyl
Mae yna newyddion da i ŵyl Gymraeg Caerdydd, Tafwyl.
Yn y rownd ddiweddaraf o geisiadau am gyllid mae'r ŵyl wedi sicrhau cyllid digonol i gynnal y digwyddiad yng Nghastell Caerdydd eto'r haf hwn ar yr 2il a'r 3ydd o Orffennaf.
Mae'r buddsoddiad yn golygu y bydd Tafwyl nid yn unig yn gallu cryfhau ei enw da, ond hefyd yn gallu edrych ymlaen at ddatblygiadau cyffrous newydd.
Dywedodd Sian Lewis, Prif Weithredwr Menter Caerdydd, ei bod wrth ei bodd nawr bod y gyllideb wedi cael ei gadarnhau.
Meddai: "Mae hyn yn newyddion gwych i'r celfyddydau, diwylliant ac yn bwysicaf oll yr iaith Gymraeg yng Nghaerdydd. Gallwn gryfhau'r partneriaethau creadigol presennol gyda sefydliadau ac unigolion gan hefyd datblygu rhai newydd yng Nghaerdydd a thu hwnt."
Llywodraeth Cymru yw prif gyllidwyr yw ŵyl eto eleni. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gefnogol o'r digwyddiad o'r cychwyn cyntaf, ac eto eleni bydd eu cyllid yn sicrhau holl gostau strwythur yr ŵyl.
Mae Cyngor Caerdydd unwaith eto wedi cyfrannu Castell Caerdydd mewn da, ac wedi clustnodi 9 diwrnod i'r ŵyl adeiladu'r safle, cynnal y digwyddiad, a dad-osod. Mae'r cyfraniad werth dros £100,000 ac mae Arweinydd Cyngor Caerdydd, Phil Bale, yn hynod gefnogol.
Meddai: "Mae Tafwyl yn hynod o bwysig ac yn ddigwyddiad cynhwysol sy'n amlygu diwylliant Cymraeg y ddinas i drigolion ac ymwelwyr, ac yn dathlu dwyieithrwydd Caerdydd. Mae'r ŵyl bellach yn rhan graidd o galendr digwyddiadau'r ddinas."
Bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn parhau i gefnogi Tafwyl fel un o'r prif gyllidwyr; gan gyfrannu tuag at holl elfennau artistig yr ŵyl, gan gynnwys rhaglennu 40 band dros dri llwyfan, a nifer fawr o sesiynau celf, cerddoriaeth, syrcas a chomedi ar gyfer pob oedran.
Datblygiad newydd cyffrous ar gyfer Tafwyl 2016 bydd ardal arbennig ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau. Diolch i gyllid gan y Loteri, Arian i Bawb, bydd y digwyddiad yn datblygu ardal yn llawn sesiynau ffasiwn, graffiti, cerddoriaeth, syrcas a chelf, i gyd mewn yurt hardd.
Diolch i brosiect Arts & Business Cymru, CultureStep bydd llu o weithdai celf yn cael eu cynnal gan Menter Caerdydd mewn Ardaloedd Cymunedau'n Gyntaf dros hanner tymor Sulgwyn.
Bydd Re-Create yn cychwyn prosiect celf a fydd wedyn yn cael ei arddangos yn Tafwyl. Bydd hyn yn gyfle gwych i ennyn diddordeb plant yn y celfyddydau, gan hefyd annog ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol drwy ethos Re-Create.
Yn ogystal â'r ariannwyr uchod mae Tafwyl wedi sicrhau nifer o noddwyr preifat. Bydd Prifysgol Caerdydd yn parhau i gefnogi fel Prif Noddwr, yn ogystal â'r noddwyr presennol sydd yn dychwelyd blwyddyn ar ôl blwyddyn - Capital Law, Carlsberg, BBC Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru, Boom Cymru, Equinox Communications, Coleg Caerdydd a'r Fro, Bae Resourcing, Miri Mawr, AMG Wealth Solutions, Siop y Felin a Commercial Conclusion.
Mae Clwb Ifor Bach wedi arwyddo cytundeb nawdd 3 blynedd newydd gyda Tafwyl i noddi'r Babell Acwstig, a noddwr newydd sbon ar gyfer 2016 yw'r Feithrinfa Jiráff Gwyrdd a fydd yn rhedeg y Cwtsh Babis.
Dros yr wythnosau nesaf bydd y gwaith o archebu strwythurau a threfnu amserlen lawn o ddigwyddiadau cyffrous yn cadw tîm Menter Caerdydd yn brysur. Mae'r tîm yn anelu i gyhoeddi'r lein yp cerddorol ym mis Mawrth, cadwch lygad ar Twitter a Facebook yn ogystal â www.tafwyl.cymru ar gyfer yr holl gyhoeddiadau cyffrous.