Mwy o Newyddion

RSS Icon
05 Ionawr 2016

Galw ar y Prif Weinidog i newid cwrs y berthynas rhwng y DU a Saudi Arabia

Mae AS Plaid Cymru Jonathan Edwards wedi cyhuddo’r Prif Weinidog o safonau dwbl a difaterwch llwyr wedi i bedwar deg saith o garcharorion, nifer ohonynt yn wrthwynebwyr y llywodraeth, gael eu dienyddio yn Saudi Arabia. Galwodd Mr Edwards ar i’r llywodraeth newid cwrs yn eu polisi tranmor yn y rhanbarth.

Dywedodd Jonathan Edwards AS fod amharodrwydd llywodraeth y DU i gondemnio gweithredoedd Saudi Arabia yn gyhoeddus ac yn gryf yn peri cryn bryder, a dywedodd fod agwedd gyson yn allweddol tuag at hawliau dynol yn y rhanbarth os yw’r frwydr ideolegol yn erbyn terfysgaeth Islamaidd am gael ei hennill.

Dywedodd Jonathan Edwards AS: “Mae polisi tramor yn y rhanbarth yn frith o safonau dwbl a gwrthddywediadau. Oni bai bod ymagwedd gyson, yn enwedig wrth ystyried hawliau dynol, nid oes gobaith o guro Daesh a grwpiau terfysgol Islamaidd eraill.

"Yng ngoleuni digwyddiadau diweddar, mae'n rhaid i lywodraeth y DU ystyried ar frys goblygiadau eu perthynas agos parhaus â Saudi Arabia gan eu herio ar eu polisi i dawelu rhyddid barn ac atal hawliau sifil a gwleidyddol sylfaenol, gyda nifer helaeth o’r marwolaethau â chymhelliant crefyddol yn erbyn lleiafrifoedd Shia

"Mae amharodrwydd Llywodraeth y DU i gondemnio gweithredoedd Saudi Arabia yn gyhoeddus yn ogystal a’u amharodrwydd i erfyn ar y gyfundrefn Saudi i roi’r gorau ar hyrwyddo ideoleg crefyddol eithafol Sunni yn annealladwy ac yn groes i’w hymgais i fynd i’r afael â therfysgaeth Islamaidd.

"Mae gweithredu milwrol parhaol yn y rhanbarth ynghyd â pholisi tramor anghyson yn anorfod am arwain at deimladau wrth-orllewinol, sydd o reidrwydd yn elfen allweddol o ran rhoi tanwydd i grwpiau terfysgol fel Daesh.

"O ystyried gweithrediadau Saudi Arabia, nid yn unig yn eu gwlad ei hun, ond hefyd yn uniongyrchol mewn gwledydd cyfagos megis Bahrain a Yemen, dylai’r Adran Busnes adolygu trwyddedau arfau i Saudi Arabia ar frys a cheisio archwilio pob cwrs diplomyddol ac economaidd ar gael i'r gymuned ryngwladol.  

"Y peth lleiaf y dylai llywodraeth y DU ei wneud yw tynnu nôl ei chefnogaeth i Gadeiryddiaeth Saudi Arabia o Banel Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig.”  

Rhannu |