Mwy o Newyddion
Ehangu cynlluniau band eang cyflym iawn
Cyhoeddodd Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, fod dau o gynlluniau Llywodraeth Cymru yn cael eu hehangu er mwyn cynyddu eto fyth nifer y bobl sy’n gallu defnyddio band eang cyflym iawn yng Nghymru.
Eisoes mae Cymru ar flaen y gad ymhlith y gwledydd datganoledig o ran band eang cyflym iawn, ac mae Cyflymu Cymru yn parhau i wneud gwaith da. Diolch i’r prosiect hwn, mae band eang ffeibr cyflym ar gael i fwy na 530,000 o safleoedd yng Nghymru erbyn hyn.
Mae gwaith Cyflymu Cymru a’r gwaith masnachol i gyflwyno’r ddarpariaeth yn golygu y bydd band eang cyflym iawn ar gael i’r mwyafrif helaeth o gartrefi a busnesau yng Nghymru, ond fe fydd yna ganran na fydd yn gallu manteisio.
Bydd newidiadau i Allwedd Band Eang Cymru a’r Cynllun Taleb Gwibgyswllt yn ehangu ar y band eang cyflym iawn sydd ar gael a bydd yn sicrhau bod cyflymderau rhyngrwyd cyflymach ar gael i bob cartref a busnes ledled Cymru.
Am gyfnod dwy flynedd, bydd cynllun Allwedd Band Eang Cymru ar gael i bob cartref a busnes ledled Cymru lle nad oes cysylltiad cyflym iawn ar hyn o bryd.
Bydd y cynllun hwn yn cyllido neu’n rhangyllido costau gosod cysylltiadau band eang newydd ar gyfer cartrefi a busnesau yng Nghymru sy’n sicrhau newid sylweddol yn y cyflymderau lawrlwytho. Bydd yna ddwy lefel o gyllid, yn dibynnu ar y cyflymder sy’n ofynnol, £400 ar gyfer cyflymder lawrlwytho o 10 megabit yr eiliad ac yn uwch ac £800 ar gyfer 30 megabit yr eiliad ac yn uwch.
Mae modd defnyddio gwahanol dechnolegau i ddarparu cyflymderau cyflym iawn, gan gynnwys lloeren, gwasanaeth di-wifr a 4G.
Mae’r Cynllun Taleb Gwibgyswllt yn cael ei agor i fusnesau ledled Cymru i’w helpu i dalu’r costau cyfalaf cychwynnol sydd ynghlwm wrth osod gwasanaethau gwibgyswllt. £10,000 fydd uchafswm y grant a fydd ar gael. Cyn hyn, dim ond i fusnesau yn yr Ardaloedd Menter a Thwf Lleol yr oedd y cynllun hwn ar gael.
Dywedodd Julie James: “Mae band eang cyflym iawn yn hollbwysig i gartrefi a busnesau. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddod â band eang cyflymach i gymunedau ledled Cymru.
“Bydd y ddau gynllun a ehangwyd, ynghyd â Cyflymu Cymru, ein prosiect i ddarparu band eang di-wifr ar gyfer 2000 o safleoedd ar barciau busnes ac ystadau diwydiannol, a gwaith cwmnïau preifat i gyflwyno’r gwasanaeth yn fasnachol, yn darparu cyflymderau cyflym iawn i bob cartref a busnes ledled Cymru.
“Mae’r holl fesurau rydyn ni’n eu cymryd yn helpu i wneud Cymru yn un o’r gwledydd mwyaf cysylltiedig yn y byd.”