Mwy o Newyddion

RSS Icon
05 Ionawr 2016

Y Prif Weinidog yn cyhoeddi £2.3m ar gyfer amddiffyn rhag llifogydd yng Nghymru

Cyn ei ymweliad heddiw â’r ardaloedd ddioddefodd oherwydd y llifogydd yn y Gogledd, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones y caiff £2.3 miliwn ei wario i gefnogi cymunedau ledled y wlad sydd mewn perygl o dioddef llifogydd.

Mae’r arian hwn a ddaw o gyllideb ganlyniadol Llywodraeth y DU, yn dilyn cyhoeddiad diweddar gan y Trysorlys ynghylch helpu cartrefi a busnesau sydd wedi’u taro gan y llifogydd.

Meddai Carwyn Jones: “Mae’r effeithiau rydym wedi’u gweld dros gyfnod y gwyliau yn dangos mwy bwysig yw hi inni ddal ati i ddiogelu cymunedau ym mhob ardal yng Nghymru rhag y llifogydd a ddaw yn sgil tywydd mawr.

“Mae hi wedi bod yn gyfnod o law neilltuol o drwm ac er ein bod wedi gweld llifogydd, mae’r amddiffynfeydd ar ein hafonydd wedi gwneud eu gwaith yn dda gan amddiffyn miloedd o gartrefi.

“Mae’r £2.3 miliwn ychwanegol o fuddsoddiad rwyf yn ei gyhoeddi heddiw yn dod ar ben y £1 miliwn a neilltuais wythnos ddiwethaf i awdurdodau lleol i gynnal gwaith trwsio a chynnal brys i sicrhau bod cartrefi ac eiddo’n parhau’n ddiddos.

“Mae’n bwysig cofio ein bod, ers 2011, wedi ymrwymo bron £300m, sy’n cynnwys arian o Ewrop, i reoli peryglon llifogydd a chaiff £150m ychwanegol ei fuddsoddi i reoli peryglon i’r arfordir o 2018.”

 

Rhannu |