Mwy o Newyddion

RSS Icon
05 Ionawr 2016

Difaterwch Llywodraeth San Steffan yn peryglu dyfodol S4C medd AS Plaid Cymru

Mae AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts wedi galw am adolygiad annibynnol i ddyfodol S4C yng nghanol ofnau fod darlledu yn yr iaith Gymraeg o dan fygythiad dirfawr yn sgil toriadau niweidiol.

Wrth siarad o flaen dadl heddiw ar S4C, dywedodd Liz Saville Roberts AS byddai diwylliant o doriadau parhaus i'w chyllid yn tanseilio rôl unigryw y sianel fel yr unig ddarlledwr teledu cyfrwng Cymraeg.

Mae Liz Saville Roberts hefyd yn mynegi pryderon am y dull a ddefnyddir gan y llywodraeth i gofnodi ffigurau gwylio ar gyfer y sianel.

Meddai: “Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio dro ar ôl tro yn erbyn torri parhaus ar gyllideb S4C, sydd wedi cael ei dorri 35% ers i'r llywodraeth ddod i rym yn 2010.

"Mae hyn wedi cael ei waethygu gan benderfyniad y llywodraeth i dorri grant uniongyrchol unwaith eto, y tro hwn o 26%.

"Mae Torïaid Cymru wedi torri eu hymrwymiad maniffesto eu hunain a chefnu ar eu haddewid i ddiogelu cyllid ac annibyniaeth golygyddol S4C.

"Mae Plaid Cymru yn galw am adolygiad annibynnol i sut ariannir S4C yn y dyfodol ynghyd â rôl y sianel.

"Mae perygl gwirioneddol y bydd y rôl hanfodol a chwaraeir gan S4C wrth gefnogi diwylliant Cymreig i ledu'r defnydd o'r iaith Gymraeg ymhlith siaradwyr ifanc yn cael ei anwybyddu yn Adolygiad Siarter y BBC sydd o’n blaenau, ynghyd ag obsesiwn llywodraeth Dorïaidd San Steffan gyda toriadau pellach.

"Ar ben hynny, mae'r dull presennol a ddefnyddir y llywodraeth i gofnodi nifer y gwylwyr y mae S4C yn ei ddenu - y dull BARM - ar y gorau yn annigonol ac ar y gwaethaf yn gamarweiniol, gan ei fod yn methu â chymryd i ystyriaeth gwylwyr iau a rhai sy'n troi at y sianel drwy’r cyfryngau digidol, sydd yn cynnwys nifer o bobl tu allan i Gymru.

"Mae'n ddull hen-ffasiwn o ddehongli barn y gynulleidfa sydd yn anochel yn cynhyrchu canlyniadau anghywir.

"Mae Ofcom eisioes wedi cydnabod bod gan Gymru ddiffyg lluosogrwydd y cyfryngau.

"Er mwyn atal y duedd hon sy'n peri pryder mawr a diogelu darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru, mae angen i'r llywodraeth gydnabod pwysigrwydd cynnal annibyniaeth S4C ac ymrwymo fel mater o frys i ddiogelu ei chyllid fel yr unig ddarparwr darlledu trwy gyfrwng y Gymraeg.

"Bydd Plaid Cymru yn parhau i gyflwyno'r achos cryfaf i drosglwyddo cyfrifoldeb dros ddarlledu o San Steffan i Gymru; yn sicr byddai hunaniaeth ac unigoliaeth S4C yn cael ei gwasanaethu'n well petai penderfyniadau ynglŷn a’i dyfodol yn cael eu gwneud gan sefydliad democrataidd sy’n uniongyrchol atebol i bobl Cymru.”

Rhannu |