Mwy o Newyddion

RSS Icon
04 Ionawr 2016

Cynllun Gorwelion yn chwilio am dalent cerddorol newydd

MAE prosiect Gorwelion, partneriaeth rhwng BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru i gefnogi a hybu talent newydd o Gymru, bellach yn ei drydedd flwyddyn ac yn edrych am geisiadau gan artistiaid newydd.

Bydd y 12 artist newydd yn cael eu cefnogi mewn ffyrdd gwahanol sy’n cynnwys platfform i berffomio mewn digwyddiadau ar draws Cymru ac ar orsafoedd radio cenedlaethol BBC Cymru – BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales.

Mae gofyn i gerddorion a grwpiau sydd am gael eu hystyried ddanfon recordiad o’u gwaith gwreiddiol, llun a bywgraffiad byr a chwblhau ffurflen arlein.

Bydd artistiaid Gorwelion yn cael eu dewis gan banel o arbenigwyr o’r diwydiant cerddoriaeth radio.

Fe fydd y cynllun yn cefnogi’r artistiaid mwyaf cyffrous, sydd heb arwyddo i label recordio, sydd â’r potensial i dorri tir newydd yng Nghymru a thu hwnt.

Yn 2015, gwnaeth cynllun Gorwelion helpu 12 artist ar draws Cymru mewn ffyrdd gwahanol – o fentora i berfformio mewn gŵyliau.

Dywedodd Lisa Matthews, Rheolwr Portffolio Cyngor Celfyddydau Cymru: “Ni’n falch o gefnogi Gorwelion am flwyddyn arall a gweld 12 artist arall yn cael 2016 creadigol ac un gall newid eu gyrfa.

"Hyd yn hyn mae cyfleoedd ffantastig wedi cael eu creu a ry’n ni’n edrych ymlaen at fwy o brofiadau cerddorol arbennig.”

Dywedodd Jason Carter, Pennaeth Cerddoriaeth Rhyngwladol, Masnachol a Newydd, BBC Music: “Ar ôl cefnogi artistiaid Gorwelion yn y blynyddoedd cyntaf gyda chyfleoedd i chwarae yn T in the Park a Glastonbury, mae BBC Introducing yn hapus i gefnogi Gorwelion yn y drydedd flwyddyn.

“Mae cefnogi cerddoriaeth newydd wrth wraidd popeth mae’r BBC yn ei wneud ar draws y DU, ac yn rhyngwladol, a ry’n ni’n gwneud gwahaniaeth mawr i amrywiaeth y cerddoriaeth sy’n torri trwyddo.  

“Ry’n ni’n edrych ymlaen i weld pa dalent newydd ffres fydd yn dod i’r amlwg o Gymru i gynulleidfa ehangach.”

Dywedodd Violet Skies, un o artistiaid Gorwelion 2015: “Bu eleni yn flwyddyn arbennig i mi fel rhan o’r prosiect Gorwelion.

“Dwi wedi bod yn lwcus iawn i gyflawni llawer o bethau oedd ar fy rhestr bwced – The Great Escape, Gŵyl Rhif. 6, Sŵn, Maida Vale a nawr, rwy’n edrych ymlaen at Ŵyl Eurosonic a SXSW yn 2016.

“Dwi wedi teimlo fel rhan o deulu bach Cymreig o gerddorion talentog a thîm cefnogol iawn –  mae’n neis i droi fyny mewn gŵyliau yn gwybod bod pobl yna i fy helpu. 

“Mae ysgrifennu a chydweithio gydag artistiaid eraill wedi bod yn uchafbwynt hefyd, ac mae cael gymaint o bobl eraill yn cael yr un profiad  â chi yn eich cysuro chi. 

“Mae e’n mynd i fod yn od gadael pawb blwyddyn nesaf ond yn gyffrous hefyd i weld pawb yn mynd ffordd eu hunain a gweld beth fydd ar y gorwel iddyn nhw.”

Dywedodd Kevin Moore, Rheolwr Cyffredinol The Great Escape: “Ry’n ni wrth ein boddau croesawu’r criw Gorwelion yn ôl i The Great Escape yn 2016. 

“Yn barod, ry’n ni mewn cysylltiad gyda’r prosiect i weld beth allwn ni wella a datblygu ein partneriaeth a ddechreuodd yn 2015.  

“Ry’n ni’n cael llawer o artistiaid yn ymgeisio  i berfformio yn TGE ac mae’n ffantastig ein bod ni nawr yn gallu gweithio gyda BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru i arddangos y talent newydd gorau o Gymru i’r gymuned gerddorol rhyngwladol a chefnogwyr cerddoriaeth newydd sy’n dod i’r ŵyl bob blwyddyn.

“Roedd perfformiadau Gorwelion 2015 yn atmosfferig iawn a da ni methu aros i weld pwy fydd yn cynrychioli Cymru yn 2016.”

Y dyddiad cau i dderbyn ceisiadau yw 1 Chwefror.

Fe fydd y 12 llwyddiannus yn cael eu cyhoeddi ar 22 Chwefror 2016 ar BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru.

Llun: Violet Skies

Rhannu |