Mwy o Newyddion

RSS Icon
04 Ionawr 2016

Adduned ffordd carbon isel o fyw

MAE arweinwyr eglwys wedi galw ar bobl i wneud ffordd carbon isel o fyw yn adduned Blwyddyn Newydd.

Galwant ar lywodraethau i gryfhau cymhellion dros ynni adnewyddadwy ac ar bob un ohonom i newid i ffordd o fyw carbon isel er mwyn cyflawni’r targedau a osodwyd yn uwch-gynhadledd Paris ar newid yn yr hinsawdd.

Daw’r galwad gan CHASE, grŵp amgylcheddol yr Eglwys yng Nghymru.
Er bod y grŵp yn croesawu cytundeb Paris, mae’n rhybuddio fod yn rhaid i wledydd ac unigolion weithredu a sicrhau’r toriadau angenrheidiol mewn allyriadau.

Dywedodd llefarydd CHASE, John Davies, Esgob Abertawe ac Aberhonddu: “Rydym yn croesawu’r cyfle a gynigir gan gytundeb Paris i’r byd i osgoi newid peryglus yn yr hinsawdd.

“Y cwestiwn nawr yw os yw y manteisir ar y  cymhelliant a gynigir gan gytundeb Paris.

“A fydd pob gwlad – yn cynnwys Cymru a’r Deyrnas Unedig – yn sicrhau toriadau angenrheidiol mewn allyriadau?

“Mae gan bawb ohonom ein rhan i’w chwarae, ac mae angen i bob rhan o gymdeithas ymdrechu i sicrhau’r newid mawr i sicrhau ffordd carbon isel o fyw.

“Mae’r Eglwys yng Nghymru yn datblygu ei chynllun gweithredu ei hun.

“Mae’n gyfrifoldeb ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru i arwain a chreu’r cymhellion cywir, ac felly mae’n rhaid i mi ddatgan consyrn fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi toriadau mewn cefnogaeth i ynni adnewyddadwy a dal a storio carbon. 

“Mae’n anodd gweld sut y gall hyn fod y peth cywir i’w wneud o gofio am faint a chyflymder y symud mae angen i ni wneud i  gael cymdeithas carbon isel.

“Gobeithiaf y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ailfeddwl ac yn cryfhau ei chymhellion  ynni adnewyddadwy a dal carbon fel y gellir cyflawni cytuneb Paris.”

Ym mis Medi 2015 cydnabu Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru fod newid yn yr hinsawdd yn un o’r heriau allweddol sy’n wynebu dynoliaeth. Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu gweithredu gan yr Eglwys ar newid yn yr hinsawdd. CHASE (‘Church Action for Sustaining the Environment’) yw grŵp amgylcheddol yr Eglwys ac mae’n cefnogi’r broses o ddatblygu’r cynllun gweithredu.

Rhannu |