Mwy o Newyddion
Amodau gaeafol yn peri syndod i gerddwyr
WEDI’R oerfel sydyn ar y copaon yn ddiweddar, mae Wardeiniaid Parc Cenedlaethol Eryri yn awyddus i atgoffa pawb sy’n meddwl mynd allan i gerdded ar y mynyddoedd i wirio’r tywydd cyn cychwyn.
Er i’r misoedd diwethaf brofi’n fwyn iawn, mae’r oerfel sydyn dros y Flwyddyn Newydd wedi peri syndod i nifer o gerddwyr.
Er bod y tir isel wedi aros yn wlyb wedi wythnosau o law trwm, i fyny’n y mynyddoedd, mae cenllysg ac eira wedi syrthio, a rhew ac eira wedi eu cywasgu’n galed ar nifer o brif lwybrau’r Wyddfa. Ond sut mae cael gwybod beth yw’r amodau dan draed ar y mynyddoedd cyn cychwyn?
Y gaeaf hwn, mae tîm newydd o bobl yn dringo i gopa’r Wyddfa i wirio’r amodau. Rhyw dair i bedair gwaith bob wythnos, ym mhob tywydd, bydd aelod o dîm wardeinio’r Wyddfa, sef Helen Pye, Carwyn ap Myrddin, a Rhys Wheldon Roberts yn casglu gwybodaeth fanwl o’r amodau dan draed er mwyn ei drosglwyddo i’r Swyddfa Dywydd.
Yn ymuno â nhw bydd Anne Vowles o Fachwen, mynydd wraig hynod o brofiadol sydd newydd ennill cytundeb i gynorthwyo’r Awdurdod â’r gwaith o gasglu’r ffeithiau pwysig hyn.
Bydd y wybodaeth a gesglir yn nodi’n glir os yw eira a rhew am effeithio ar amodau dan draed ar fynyddoedd Eryri.
Gyda’r un wybodaeth, bydd y Wardeniaid hefyd yn defnyddio cyfrif Trydar i gyfleu unrhyw newid a negeseuon drwy @snowdonweather a @mountainsafe
Dywed Helen Pye, Uwch Warden y Parc Cenedlaethol yng Ngogledd Eryri: “Gall hyd yn oed ychydig o eira neu rew o dan draed wneud y mynyddoedd yn llefydd gwahanol iawn.
“A, phan fo amodau’n debyg i’r hyn gafwyd yn ddiweddar, dydy gwisgo’n gynnes ddim yn ddigon.
“Mae’n hanfodol cario caib rhew, cramponau, gogls sgïo yn ogystal â dillad cynnes sbâr, yn ychwanegol at y cit arferol sydd ei angen i gerdded mynyddoedd.
“Er mwyn i gerddwyr baratoi’n drwyadl cyn mentro, rydym yn eu hannog i ddilyn ein trydariadau.
“Mae trydar unrhyw newid yn yr amodau dan draed ac adrodd am yr amodau i’r Swyddfa Dywydd yn wasanaeth hynod o werthfawr yr ydym yn ei gynnig – nid yn unig y gall gyrraedd cynulleidfa eang, ond mae hefyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael o’r amodau dan draed ar y mynydd.”