Mwy o Newyddion

RSS Icon
31 Rhagfyr 2015

Angen uwch-gynhadledd frys am effaith llifogydd yn y gogledd

Mae AC Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth wedi galw ar y Prif Weinidog i ddefnyddio ei ymweliad ag ardaloedd yng ngogledd Cymru sydd wedi eu taro gan lifogydd i wella amddiffyniadau yn erbyn tywydd garw.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth y dylai’r Prif Weinidog gynnull uwch-gynhadledd frys yn sgil y difrod a achoswyd gan y llifogydd helaeth dros y Nadolig.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AC: “Mae’r tywydd garw dros gyfnod y Nadolig wedi achosi anhawster enbyd i lawer o bobl ar hyd a lled y gogledd.

"Mae’n hanfodol fod yr holl asiantaethau yn dysgu gwersi fel ein bod yn edrych ar beth sydd angen ei wneud i atal y problemau rhag codi yn y dyfodol.

“Mae pentrefi megis Talybont, ger Bangor, yn ogystal â’r A55, wedi gorfod dioddef llifogydd difrifol ddwywaith yn ddiweddar.

“O’r diwedd, mae’r Prif Weinidog wedi teithio i’r ardaloedd sydd wedi dioddef, ond mae angen iddo wneud rhywbeth pendant i gryfhau ardaloedd o’r fath.

“Dylai gychwyn trwy gynnull uwch-gynhadledd frys, gan ddwyn ynghyd randdeiliaid sydd yn cynnwys yr awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a swyddogion y llywodraeth i drafod sut y gallwn ymaddasu i ymdopi’n well gyda digwyddiadau tywydd eithafol.

“Dywed yr arbenigwyr wrthym y bydd tywydd garw yn dod yn fwy cyffredin yn y dyfodol, a dylai’r llywodraeth Lafur edrych ar gynlluniau a gynigiwyd i atal difrod o’r fath rhag digwydd yma ac mewn mannau eraill.

“Mae’n hanfodol i Lywodraeth Cymru fynd ati i weithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i edrych ar bob ardal fregus yng Nghymru i asesu lle gall fod angen gwaith i atal llifogydd yn y dyfodol. Allwn ni ddim oedi gyda hyn.

“Mae effaith newid hinsawdd yn amlwg i bawb, a rhaid i ni weithio i leihau effaith hynny ar bobl Cymru.”

Rhannu |