Mwy o Newyddion
Wylfa yn cau i lawr ar ôl mwy na pedair degawd
Ar ôl 44 mlynedd o weithredu yn ddiogel, mae Safle Wylfa - gorsaf ynni niwclear Magnox mwya'r byd – wedi rhoi'r gorau i gynhyrchu ar 30 Rhagfyr, 2015.
Erbyn yr amser diffodd, roedd y safle wedi cynhyrchu bron i 232 o oriau terawatt awr (TWh) o drydan, digon i bweru 1.1 miliwn o gartrefi y flwyddyn am y 44 o flynyddoedd o weithio. Yn ystod y cyfnod hwnnw mae'r safle wedi chwarae rhan bwysig yn y gymuned leol, yn darparu a chefnogi cannoedd o swyddi, gan gyflwyno cynlluniau hyfforddi prentisiaid ar gyfer myfyrwyr lleol, ac yn annog addysg gwyddoniaeth mewn ysgolion lleol a chynorthwyo elusennau lleol.
Yn wreiddiol, roedd Wylfa i fod i ddiffodd yn 2010, ond, drwy ddulliau arloesol, bu yn cynhyrchu am bum mlynedd ychwanegol . Roedd y broses Trosglwyddo Tanwydd Rhyng-Adweithydd neu broses IRX yn golygu symud tanwydd a ddefnyddiwyd yn rhannol o un adweithydd i'r llall - gan fod gweithgynhyrchu tanwydd Magnox wedi gorffen yn 2008.
Mae'r blynyddoedd ychwanegol o gynhyrchu yn Wylfa ac Oldbury *, yn Ne Sir Gaerloyw, wedi arwain at amcangyfrif o £ 1 biliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer y trethdalwr yn y DU.
Ym mis Ebrill 2012, ar ôl ystyried yn ofalus, gwnaed y penderfyniad i ddiffodd adweithydd dau, er mwyn caniatáu adweithydd un i barhau i gynhyrchu.
Dywedodd Stuart Law, Cyfarwyddwr Safle Wylfa: "Mae Wylfa wedi bod yn llwyddiant aruthrol i Ynys Môn ac i’r diwydiant niwclear yn y DU. Rydym wedi cynhyrchu yn ddiogel am flynyddoedd lawer, sydd yn gamp rhagorol.
"Rydym wedi gwneud nifer o welliannau dros y blynyddoedd ac rwy'n falch o ddweud bod y safle yn edrych yn well nag erioed. Mae ein cynhyrchu parhaus llwyddiannus yn bennaf o ganlyniad i waith caled yr holl staff sydd wedi gweithredu, cefnogi a gofalu am y safle. Yr wyf yn siŵr y bydd heddiw yn golygu llawer i staff y gorffennol a'r presennol ac yn wir unrhyw un sydd wedi cerdded drwy ein giatiau-tro. Mae heddiw yn nodi diwedd diogel ac urddasol i gynhyrchu trydan yn Wylfa, ac yn wir i Magnox, ac yr wyf yn falch o ddweud fy mod yn rhan ohono.
"Ein prif ffocws ar gyfer y misoedd nesaf yw paratoi ein staff a’r safle ar gyfer tynnu tanwydd o'r adweithyddion, tra'n parhau i gynnal amgylchedd saff a diogel. Mae cefnogaeth barhaus ar gyfer ein staff wrth i ni wneud y newidiadau hyn o'r pwys mwyaf."
Dywedodd Kenny Douglas, Rheolwr Gyfarwyddwr Magnox Cyf: "Mae'r tîm cyfan sydd wedi helpu Wylfa gynhyrchu mor gryf am gyfnod mor hir yn haeddu llawer iawn o gredyd.
"Mae wedi bod yn bleser gweld y balchder mae'r tîm wedi ddangos o ran sicrhau bod Wylfa yn ddod i ben i gynhyrchu mewn modd urddasol. Mae hyd y cyfnod cynhyrchu wedi ei gyflawni oherwydd ansawdd y dyluniad gwreiddiol, adeiladwaith y safle ac oherwydd timau technegol Wylfa a Magnox ehangach, yn y gorffennol a'r presennol. Mae hyn wedi bod yn gyflawniad rhagorol."
Dywedodd John Clarke, Prif Swyddog Gweithredol yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA): "Mae Wylfa wedi parhau i gynhyrchu pŵer yn llawer hirach na'r disgwyl, gan godi refeniw ychwanegol gwerthfawr i helpu i ariannu cenhadaeth glanhau yr NDA.
"Rwy'n falch o'r gwaith arloesol mae’r tîm wedi ei wneud i estyn ei bywyd gweithredol, ond mae'r amser wedi dod i’w diffodd ac i symud i mewn i'r cam dadgomisiynu. Bydd hyn yn gofyn yr un gwaith tîm ymroddedig ac ymrwymiad i ddiogelwch am flynyddoedd lawer i ddod."
Dywedodd Mina Golshan, Cyfarwyddwr Rhaglen Dros Dro i Dadgomisiynu, Tanwydd a Gwastraff: Swyddfa Rheoleiddio Niwclear: "Ar ôl 44 mlynedd o weithredu yn ddiogel, mae diwedd cynhyrchu pŵer yn Wylfa yn cynrychioli diwedd cyfnod a dechrau pennod newydd fel bod sylw yn troi at dynnu tanwydd a dadgomisiynu y safle.
"Mae glanhau etifeddiaeth niwclear y DU yn flaenoriaeth genedlaethol, a bydd SRN yn canolbwyntio ar sicrhau bod Magnox Cyf yn darparu tynnu tanwydd a datgomisiynu'r safle yn saff a diogel fel rhan o'i raglen i ddadgomisiynu y fflyd adweithyddion Magnox cyfan.
"O ystyried y strategaeth tymor hir i rhoi'r adweithyddion Magnox i gyflwr dawel a elwir yn Gofal a Chynnal a Chadw, wrth ymgysylltu â'r trwyddedai, NDA a rhanddeiliaid eraill, bydd ein nod yn parhau i sicrhau dealltwriaeth gyffredin a chytundeb ar ddisgwyliadau ar gyfer mynd i mewn ir cam hwn a rheoli safleoedd yn ystod y cyfnod hwn."
Ar adeg y gwaith adeiladu, Wylfa oedd yr orsaf dechnegol datblygedig fwyaf o orsafoedd ynni niwclear Prydain a'r mwyaf pwerus yn y byd. Cymerodd 10 mlynedd i adeiladu ac agorwyd yn 1971.
Mae uchafbwyntiau o 2015 wedi cynnwys cael ei gwobrwyo gyda ei pumed Cleddyf Anrhydedd gan Gyngor Diogelwch Prydain a cael ei chydnabod gan y Sefydliad Ffiseg ar gyfer y rhaglen trosglwyddo tanwydd rhyng-adweithydd a oedd yn caniatáu i'r safle i gadw un adweithydd yn gweithredu.
Yn unol ag ymrwymiad y Llywodraeth i ddatblygu rhaglen niwclear newydd i ddarparu cyflenwadau ynni carbon isel sicr ac, cynlluniau ar gyfer fflyd newydd o orsafoedd ynni niwclear yn cynnwys un yn Wylfa gan Horizon Nuclear Power, a allai gyflawni o leiaf 2,700MW o bŵer ar Ynys Môn .
*Trefnwyd yn wreiddiol i Oldbury roi'r gorau i gynhyrchu