Mwy o Newyddion

RSS Icon
31 Rhagfyr 2015

Jonathan Edwards - Mae Cymru angen Prif Weinidog fydd yn hawlio parch gan San Steffan

Mae Jonathan Edwards AS Plaid Cymru wedi dweud heddiw ei bod hi'n bryd i Gymru ethol Prif Weinidog fydd yn hawlio parch gan San Steffan a rhoi terfyn ar Gymru'n cael bargen wael gan Lundain.

Dywedodd Mr Edwards nad oedd y Prif Weinidog Llafur presennol, Carwyn Jones, yn cael ei gymryd o ddifri yn San Steffan a bod hyn yn rhannol gyfrifol am y setliad gwan a gynigir i Gymru ar gyllido teg a mwy o bwerau.

Ychwanegodd fod materion megis HS2 a phwerau treth incwm wedi amlygu sut mae'r Torïaid yn Llundain wedi gadael Llafur yng Nghymru yn rhedeg mewn cylchoedd, ac anogodd pobl i ddefnyddio etholiad y Cynulliad fis Mai i ethol llywodraeth Plaid Cymru fyddai'n fodlon herio San Steffan.

Dywedodd Jonathan Edwards: "Gyda'r Prif Weinidog Llafur wedi methu hawlio parch gan San Steffan, nid oes syndod fod Cymru yn cael bargen wael ar gyllido teg a mwy o bwerau.

"Mae materion diweddar megis cyfran deg i Gymru o wariant ar brosiect rheilffordd HS2 wedi amlygu gwendidau arweinyddiaeth Carwyn Jones.

"Yn hytrach na brwydro dros gyfran deg i Gymru o'r prosiect Lloegr-yn-unig hwn fydd yn costio biliynau, roedd y Prif Weinidog Llafur yn fodlon i ddechrau i gytuno gyda'r Ceidwadwyr nad oedd Cymru'n gymwys i dderbyn yr un geiniog.

"Yn dilyn hynny, treuliodd ef a Llywodraeth Cymru fisoedd yn rhedeg mewn cylchoedd cyn cytuno, o'r diwedd, gyda Phlaid Cymru na ddylai trethdalwyr Cymreig orfod cyfrannu heb dderbyn cyfran deg - cyn yna gefnogi'r Ceidwadwyr pan gadarnhaodd yr Adolygiad Gwariant diweddar na fyddai Cymru'n derbyn ol-wariant uniongyrchol.

"Mae'r Ceidwadwyr yn trin y weinyddiaeth Lafur ym Mae Caerdydd gyda sarhad am nad ydynt yn ei pharchu na'i hofni. Mae hyn yn cyferbynnu'n glir gyda'r berthynas rhwng San Steffan a Chaeredin a Belffast.

"Yn yr Alban, mae Prif Weinidog cryf sydd wedi llwyddo rhoi pwysau ar lywodraeth Geidwadol y DG gan sicrhau mwy o bwerau i senedd yr Alban i dyfu'r economi a chreu swyddi. Yn yr un modd, mae Llywodraeth Gogledd Iwerddon wedi ennill sawl consesiwn gan San Steffan.

"Nid yw Cymru yn genedl eilradd and nid oes rheswm yn y byd pam y dylem setlo am unrhyw beth llai na bargen debyg. Yr unig ffordd o gyflawni hyn yw i ethol llywodraeth Plaid Cymru gyda Leanne Wood yn Brif Weinidog fis Mai."

Rhannu |