Mwy o Newyddion
2016 – Blwyddyn y Beibl Byw
Mewn oes pan fod carfannau eithafol a threisgar yn rhoi enw drwg i grefydd, mae credu mewn Duw cariadus yn dal i fod yn rhan allweddol o fywydau biliynau o bobl ar draws y byd, meddai un o arweinwyr Cristnogol Cymru yn ei Neges Calan.
"Nid yw rhyfel, casineb a'r awydd i ddial yn gydnaws â chynllun Duw ar gyfer y ddynoliaeth," meddai Dr Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.
"Yn Iesu, mae Duw nid yn unig yn datgelu ei natur ei hun, ond hefyd yn dangos i ni sut y dylai dynoliaeth fod.
"Mae’r datguddiad hwnnw i’w weld mewn du a gwyn yn y Beibl. Fel Anghydffurfwyr Cymreig rydym yn lansio ymgyrch newydd - 2016, Blwyddyn y Beibl Byw.
"Byddwn yn gwahodd pobl i ddarllen y Beibl eto, neu ei ddarllen am y tro cyntaf, i weld sut y mae Duw yn cynnig gobaith i fyd sydd ar chwâl,” meddai Dr Tudur.
Mae hyn yn cyd-ddigwydd â chyhoeddi fersiwn brintiedig newydd sbon o'r Beibl yn Gymraeg - dim ond y trydydd cyfieithiad erioed. Roedd y cyntaf yn 1588 a'r ail yn 1988. Roedd Beibl.net, a gyfieithwyd gan Arfon Jones, ar gael ar y we yn barod, ond roedd galw mawr am gopïau mewn print. Fe wnaeth yr argraffiad cyntaf o 3,000 werthu allan cyn cyrraedd y siopau, gydag ail argraffiad eisoes ar ei ffordd. Beibl yw hwn mewn Cymraeg llafar, a bydd yn apelio’n arbennig at bobl ifanc a’r sawl sy'n dysgu'r iaith.
“Mae'r Beibl yn rhoi arweiniad dwyfol ar faterion fel tlodi a heddwch, chwarae teg a chyfiawnder, a stiwardiaeth dynolryw o’r blaned - themâu sy'n hynod berthnasol i'n bywydau ni heddiw," meddai Dr Geraint Tudur.
"Yn ogystal â meithrin cred bersonol yn Nuw ac yn Iesu, byddai dilyn ei ddysgeidiaeth yn gwneud y byd yn lle llawer mwy gwâr. O safbwynt siaradwyr a dysgwyr Cymraeg fel ei gilydd, mae’r fersiwn newydd o’r Beibl yn hynod ddarllenadwy ac yn hygyrch iawn, mewn print ac ar y we."