Mwy o Newyddion
Arian i helpu elusennau i hyfforddi gwirfoddolwyr newydd
Mae elusen sy’n helpu pobl anabl i gael gwaith, elusen sy’n gweithio i atal pobl ifanc rhag dechrau ysmygu, ac elusen sy’n gwarchod yr amgylchedd ymhlith y saith o sefydliadau trydydd sector a fydd yn elwa o gael bron i £118,000.
Mae’r Gweinidog Cymunedau, Lesley Griffiths, wedi cyhoeddi y bydd elusennau ledled Cymru yn cael cyllid i’w helpu i recriwtio a hyfforddi gwirfoddolwyr newydd.
* Bydd Kaleidoscope yn cael bron i £17,400 i recriwtio gwirfoddolwyr newydd ym Mhowys ar gyfer helpu pobl sydd â phroblemau camddefnyddio cyffuriau neu alcohol, a hefyd helpu eu teuluoedd a’u cymunedau.
* Bydd A Voice for You Ltd yn cael bron i £12,800 i hyfforddi gwirfoddolwyr i ddarparu gwasanaethau eirioli ar gyfer pobl ag anableddau dysgu ym Mhowys.
* Bydd y Shared Earth Trust yn cael bron i £17,630 i recriwtio 50 o wirfoddolwyr newydd ar gyfer canolfan gadwraeth Fferm Denmark yng Ngheredigion, er mwyn gwella profiad yr ymwelwyr ac ehangu bioamrywiaeth y safle.
* Bydd yr elusen Mentor Ring o Gaerdydd yn cael £17,700 i annog pobl o gefndiroedd du a lleiafrifoedd ethnig i wirfoddoli a chymryd rhan mewn gweithgareddau elusennol yn eu cymuned.
* Bydd Canolfan Gofalwyr Abertawe yn cael dros £17,550 i recriwtio 45 o wirfoddolwyr yn yr ardal i sicrhau bod gofalwyr yn cael y cyfle i fwynhau gweithgareddau cymdeithasol a chael ychydig o seibiant.
* Bydd Ash Wales, sy’n gweithio ledled y De ac yn Wrecsam, yn cael dros £17,180 ar gyfer prosiect sy’n ceisio atal pobl ifanc rhag dechrau ysmygu. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i hyfforddi pobl ifanc i roi gwybodaeth a chyngor i’w cyfoedion.
* Bydd yr ELITE Supported Employment Agency Ltd yn cael dros £17,715 i recriwtio gwirfoddolwyr i helpu pobl anabl a phobl agored i niwed yn y De i gael gwaith.
Dywedodd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths: “Mae sefydliadau trydydd sector yn rhan anhepgor o’n cymunedau ledled Cymru gan eu bod yn darparu gwasanaethau pwysig lleol – o helpu i wella iechyd a lles i helpu pobl i gael gwaith.
“Dw i’n falch iawn o’r ffaith bod gennym bron i filiwn o wirfoddolwyr yma yng Nghymru, sy’n rhoi o’u hamser i wella bywydau’r bobl o’u cwmpas. Dw i’n awyddus i weld y nifer yn cynyddu ymhellach fyth, a dyna pam dw i wedi rhoi arian i’r sefydliadau hyn i’w helpu i recriwtio a hyfforddi gwirfoddolwyr newydd.”