Mwy o Newyddion

RSS Icon
29 Rhagfyr 2015
Gan DUNCAN BROWN

Boddi'r byd - gwirionedd annifyr ac anghyffyrddus am ein tywydd a’n hinsawdd

MAE hi’n amser siarad yn blaen. Mae’r llifogydd diweddar yn anochel ac yn ganlyniad i Newid Hinsawdd. Ni fydd camau atal llifogydd confensiynol ar eu pennau eu hunain yn ddatrysiad. Rhaid i ni wynebu’r gwir achos.

Ydw, dwi’n gwybod o’r gorau mor hawdd ac mor beryglus yw drysu “tywydd” a “hinsawdd”. Nid oes modd profi cysylltiad UNRHYW dywydd, ni waeth pa mor eithafol, gyda newid hinsawdd. Digwyddiad yw tywydd, patrwm yw hinsawdd. Ond os ydych yn dal i amau nad yw’r hinsawdd yn newid, gofynnwch i chi’ch hun, pa fath o dywydd y buasai’n rhaid i ni ei ddioddef i’ch argyhoeddi bod Newid Hinsawdd yn wir ar droed? Deg gwaith gwaeth? Can gwaith gwaeth? A buasai’r hafaliad ddim yn wyddonol-ddilys bryd hynny! Beth sydd yn ddilys yw’r amlder a’r dwyster cynyddol mewn gwahanol ddigwyddiadau tywydd eithafol yma ac ar draws y byd. Sychder digynsail yn y dwyrain canol, Califfornia a chanolbarth Ewrop, llifogydd digynsail yng Nghanolbarth America a Phrydain a thannau di-reolaeth yn Awstralia ac Indonesia. Ac ia, yn rhannol, symudiadau enfawr o bobloedd o un wlad i’r llall – gwyliwch y gofod ar hynny!

Ar Radio 4, yn anterth y stŵr am y llifogydd yn Swydd Efrog digwyddais glywed y gweinidog dros yr amgylchedd yn Lloegr, Elizabeth Truss, yn dweud bod tywydd eithafol Nadolig 2015 yn gyson â phroffwydoliaethau Newid Hinsawdd. Roedd ei defnydd o “consistent with”, “cyson”, yn hollol gywir. Gyda phob dyledus glod, dyna’r tro cyntaf i mi glywed gweinidog o aruchel swydd yn cysylltu, yn gywir, tywydd a hinsawdd a da oedd ei chlywed yn cydnabod rôl Newid Hinsawdd mewn sefyllfa “go iawn” fel y llifogydd diweddar. 

Does ond gobeithio y bydd y llywodraeth yn sylweddoli oblygiadau hyn ac yn gweithredu ar eu hymrwymiadau i COP21 ym Mharis ddechrau mis Rhagfyr. Ydi’r llywodraeth y mae Mrs Truss yn rhan ohono yn barod er enghraifft i ail-sefydlu cymhorthdal i ddatblygu ynni solar a gwynt, a chadw tanwydd ffosil yn y ddaear gan gynnwys nwy siâl? Ydi llywodraeth Prydain Fawr yn barod i roi’r gorau i roi sybsidi ar awyrennau a threthu tanwydd awyren fel y gwnaed erioed ar danwydd ceir? Ydi’r llywodraeth yn barod i ddatgysylltu Newid Hinsawdd o Adran yr Amgylchedd a’u cynnwys fel rhan annatod o bob portffolio llywodraethol – economaidd, cymdeithasol, materion tramor – pob un? Dyna beth yw oblygiadau anochel clymu llifogydd Hebden Bridge, Talybont, canol dinas Efrog a Leeds, gyda Newid Hinsawdd.
Ydyn ni etholwyr yn barod i ganiatáu iddynt wneud hynny? Rhwng gwleidyddion a’u hetholwyr mae yna gylch dieflig o afrealaeth sydd yn cael ei borthi gan y wasg asgell dde – ac mae’n rhaid iddo ddod i ben. Ai rŵan yw’r cyfle?

A lle tybed mae gweinidog Cymru dros yr amgylchedd, y bonwr Carl Sargeant, yn hyn o beth? Ydi o yn barod i ddweud mai Newid Hinsawdd ac nid cloddiau gorlif rhy isel yn unig oedd yn gyfrifol am yr annibendod diweddar yn Nhalybont, Bangor – neu’r annibendod gwaeth sydd i ddod? Erbyn i hyn o lith gyrraedd pen eich drws, a’n gwaredo efallai y bydd y dŵr wedi cyrraedd o’i flaen. Ydi Carl Sargeant yn barod i ariannu insiwleiddio tai, codi tyrbinau gwynt a dŵr, codi meysydd solar a storfeydd pwmp, rhoi hawliau statudol i Gyfoeth Naturiol Cymru i wahardd yn gyfreithiol adeiladu tai ar orlifdir a chefnogi ffermwyr i reoli blaenau ein hafonydd trwy blannu coed? Ydi’r gweinidog yn barod i fentro ar sefydlu economi newydd yn seiliedig ar gadwraeth ynni a chreu diwydiant ynni adnewyddol newydd? Ydyn ni yn barod i’w ganiatáu i wneud hynny? Neu bleidleisio dros blaid arall a wnaiff? Ni biau’r deis yn y pen draw.

Mae hinsawdd y ddaear wastad yn fwy cymhleth na’r disgwyl. Mae hi’n flwyddyn yr El Niño neu ENSO (El Niño Southern Oscillation…. Gwglwch!), y ffenomenon gwbl naturiol honno yn nhrofannau’r Môr Tawel sydd wedi effeithio’n gylchol ar dywydd y byd ers milenia. Mae cyfran o’n tywydd eithafol presennol i’w briodoli i honno ond mae’r effaith yn chwyddo’r cynhesu sydd yn bod eisoes. Dydi bodolaeth El Niño ddim yn golygu nad Newid Hinsawdd sydd yn gyfrifol am yr argyfwng. Er mai ffenomenon gylchol yw El Niño, mae’n digwydd yn amlach ac yn gryfach fel yr aiff Newid Hinsawdd rhagddo – ac El Niño eleni yn ôl pob sôn yw’r cryfaf erioed. 

Mae’r gwirionedd am ein tywydd a’n hinsawdd yn annifyr ac yn anghyffyrddus i’w wynebu ac mae’n rhy hawdd dianc i ryw baradwys ffŵl a grëwyd gan y wasg asgell dde. Mae angen i bob un ohonom bwyso a mesur yn gywir beth yw ein rôl bersonol ni yn y broblem a’n rôl bersonol ni yn ei ddatrysiad. ‘Dydyn ni ddim angen gwleidyddion yn ein camarwain ei bod hi’n fusnes fel arfer – dydi hi ddim.

Llun: Cerflyn o ddyfrgi ym Mharc Llanelwy, 26 Rhagfyr eleni
Llun: Alun Williams

 

Rhannu |