Mwy o Newyddion

RSS Icon
29 Rhagfyr 2015

Cartref y Gymraeg yng Nghaerdydd

Cyn diwedd Ionawr bydd yr hyn a ystyrir ‘yn un o bendodau mwyaf cyffrous yr iaith yn y brifddinas’ yn dechrau o ddifri. Bydd Yr Hen Lyfrgell yn yr Ais yn agor ei drysau fel canolfan i'r Gymraeg yng Nghaerdydd. Er ei bod ychydig yn hwyrach na’r disgwyl yn agor, hwn fydd y cyfle i hyrwyddo, dathlu a defnyddio'r Gymraeg mewn adeilad eiconig yng nghalon y ddinas, meddir.

Mae tua deugain o swyddi newydd yn cael eu creu yn y ganolfan sydd yn adeilad tri llawr. Bydd 25 yn llawn amser a thua 15 yn rhan amser. Bethan Williams, cyfarwyddwr y ganolfan sy’n cydlynu’r gwaith o chwilio am weithwyr.

”Dyma gychwyn un o benodau mwyaf cyffrous yr iaith yn y brifddinas ac mae gan bartneriaid Yr Hen Lyfrgell gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y ganolfan,” meddai.

“Mae cyfle unigryw yma i ddathlu a hyrwyddo’r iaith yng nghanol y brifddinas. Drwy gynnig rhywbeth i bawb ein gobaith yw ein bod ni’n denu cymaint â phosib drwy’r drysau i brofi a mwynhau’r Gymraeg mewn awyrgylch groesawgar.”

Wrth fod ar agor saith diwrnod yr wythnos bydd y ganolfan yn cynnig croeso cynnes i holl drigolion Caerdydd a’i hymwelwyr. Cynigir rhaglen lawn o weithgareddau a gwasanaethau i bob oed wedi eu cydlynu gan Fenter Caerdydd,  

Ymhlith yr atyniadau bydd caffi bar a bwyty bywiog dan oruchwyliaeth y cogydd Padrig Jones a Clwb Ifor Bach, crèche Mudiad Meithrin i blant bach, gwersi Cymraeg i ddysgwyr gan Brifysgol Caerdydd, llwyfan perfformio ar gyfer gigs acwstig, nosweithiau comedi a stomp, cyfleusterau cynadledda ac ystafelloedd digwyddiadau i'w llogi, Amgueddfa Stori Caerdydd, siop yn gwerthu cynnyrch, llyfrau a chardiau Cymraeg.

Wedi agor, rhaid i’r Hen Lyfrgell fod yn hunan-gynhaliol ac mae angen cymaint o gefnogaeth â phosib i sicrhau ei llwyddiant.  Wrth gytuno i dalu £5 y mis i fod yn "'Ffrind" i’r Hen Lyfrgell gellir derbyn gostyngiadau yn y Caffi Bar a'r Siop, cyfle cyntaf i archebu tocynnau a sawl mantais arall.  

Disgwylir y bydd penwythnos o ddathlu agor y ganolfan ddiwedd y mis.

Llun Bethan Williams, cyfarwyddwr y ganolfan (Llun: Irfon Bennett, gwefan Menter Caerdydd)

Rhannu |