Mwy o Newyddion

RSS Icon
29 Rhagfyr 2015

Llifogydd pellach yn bosibl

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn annog pobl i baratoi ar gyfer y posibilrwydd o ragor o lifogydd.

Bydd Cymru gyfan yn dioddef o law trwm dros nos heno (dydd Mawrth 29 Rhagfyr) ac yn y bore gygag afonydd yn cyrraedd ei huchaf yn hwyr for Mercher neu ddechrau’r prynhawn.

Bydd y glaw yn syrthio ar dir sydd eisoes yn wlyb iawn a bydd hyn yn achosi afonydd a nentydd i godi’n gyflym.

Disgwylir i CNC gyhoeddi nifer o rybuddion llifogydd ar gyfer cymunedau, a gallai ffyrdd gael eu cau wrth i ddraeniau gael trafferth i ymdopi â chymaint o ddŵr.

Er mai yn Ne Cymru y disgwylir yr effeithiau mwyaf, mae CNC hefyd yn disgwyl cyhoeddi rhai Rhybuddion Llifogydd yng Ngogledd Cymru. hefyd

Mae CNC yn cynghori pobl i gymryd gofal ar y ffyrdd gan y gallai’r amgylchiadau gyrru fod yn anodd, ac i gymryd gofal ger afonydd cyflym a mawr eu llif.

Cynghorir pobl i gadw golwg ar newyddion lleol a rhagolygon y tywydd er mwyn cael y diweddaraf am unrhyw broblemau yn eu hardal, a dylent gadw mewn cof y peryglon o yrru trwy lifddwr.

Yn dilyn llifogydd dros y Nadolig mae swyddogion CNC yn gwneud yn siŵr fod amddiffynfeydd rhag llifogydd yn gweithio’n iawn a bod afonydd yn glir o ddeunyddiau a allai rwystro’u llif.

Meddai Donna Littlechild, Rheolwr Tactegol ar Ddyletswydd CNC: “Rydym yn gofyn i bobl gymryd gofal ac edrych yn rheolaidd ar ein hysbysiadau a’n rhybuddion llifogydd. Caiff y rhain eu diweddaru bob 15 munud ar ein map rhybuddion llifogydd byw ar ein gwefan.

“Gall pobl ddarganfod a ydynt mewn perygl o ddioddef llifogydd, neu gallant gofrestru gyda’n gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd rhad ac am ddim trwy ymweld â’n gwefan neu ffonio Floodline ar 0345 988 1188.

“Dylai unrhywun sy’n gyrru fod yn arbennig o ofalus gan y bydd yna lawer o ddwr ar y ffyrdd.”

Gellir cael yr wybodaeth ddiweddaraf trwy gyfrwng cyfrif twitter Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd: @natreswales.

Rhannu |