Mwy o Newyddion

RSS Icon
29 Rhagfyr 2015

Rhaniadau a rhyfel cartref yn dwyn sylw pleidiau San Steffan

Mae Leanne Wood AC Arweinydd Plaid Cymru wedi dweud heddiw fod ei phlaid yn barod i arwain llywodraeth nesaf Cymru fel yr unig ddewis unedig sy'n wynebu pobl yn etholiadau'r Cynulliad fis Mai.

Dywedodd Leanne Wood, gyda'r blaid Lafur ar ganol rhyfel cartref a disgwyl i'r Ceidwadwyr brofi rhwygiadau dwfn dros y cwestiwn Ewropeaidd, mae Plaid Cymru yn cynnig arweinyddiaeth gref ac unedig i Gymru, gyda syniadau ymarferol ar sut i wella canlyniadau yn yr economi a'n gwasanaethau cyhoeddus a gwarchod ein Gwasanaeth Iechyd.

Rhybuddiodd hi fod rhaniadau mewnol pleidiau San Steffan yn golygu nad ydynt yn fodlon na'n medru blaenoriaethu buddiannau Cymru a chyflwyno'r mesurau sydd eu hangen i wrthdroi record o fethiant y weinyddiaeth Lafur bresennol.

Dywedodd Leanne Wood AC Arweinydd Plaid Cymru: "Mae dadlau gwleidyddol ar hyn o bryd yn cael ei ddominyddu gan beth mae pleidiau San Steffan yn ei wneud - eu cecru mewnol - yn hytrach na beth fyddant yn ei wneud i wella ein gwlad. Mae hyn yn newyddion drwg i ddemocratiaeth ac yn newyddion drwg i Gymru.

"Mae Plaid Cymru wedi mynnu o'r dechrau mai gornest syniadau ddylai etholiad nesaf y Cynulliad fod. Dylai'r pleidiau gael eu beirniadu ar eu cynlluniau i gryfhau'r economi Gymreig, adfer ein system addysg a gwarchod a gwella ein Gwasanaeth Iechyd.

"Tra bod Llafur ar ganol rhyfel cartref a disgwyl i'r Ceidwadwyr brofi rhwygiadau dwfn dros y cwestiwn Ewropeaidd, mae Plaid Cymru yn canolbwyntio ar gynnig syniadau ymarferol ar sut i wella bywydau pobl yn ein cenedl.

"Nid yw'r rhai sy'n blaenoriaethau hunan-ddiddordeb pleidiol dros ein buddiannau cenedlaethol yn gymwys i arwain Cymru.

"Gyda'r Toriaid yn gwneud yn gwaethaf yn San Steffan a gweinyddiaeth Llafur ym Mae Caerdydd yn amddiffyn record warthus tra'n rheoli dirywiad, mae sicrhau fod gan lywodraeth nesaf Cymru uchelgais, egni, a syniadau ffres yn bwysicach nag erioed.

"Wedi amlinellu cynlluniau eisoes ar sut y byddem yn creu swyddi, cefnogi busnesau Cymreig, gwella canlyniadau i'n plant mewn ysgolion a thorri amseroedd aros i gleifion y Gwasanaeth Iechyd, mae Plaid Cymru yn edrych ymlaen i ddefnyddio'r misoedd nesaf i berswadio cynifer o bobl a phosib mai Plaid Cymru yw'r newid sydd ei angen."

 

Rhannu |