Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Rhagfyr 2015

Arriva yn gobeithio cael cyrchu wi-fi yn holl orsafoedd rheilffordd Cymru

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi croesawu symudiadau i ddarparu cyswllt rhyngrwyd a wi-fi yng ngorsafoedd Trenau Arriva Cymru. 

Mae Leanne Wood, sy’n byw yn y Rhondda ac yn defnyddio trenau yn rheolaidd, wedi ysgrifennu at y cwmni rheilffyrdd, gan bwysleisio pwysigrwydd band llydan cyflym iawn mewn gorsafoedd yn y Rhondda, gan ddweud y byddai hyn yn ychwanegiad cadarnhaol i brofiad y cwsmeriaid sy’n teithio ar y trên. 

Mewn llythyr, ysgrifennodd Cyfarwyddwr Cyllid Arriva, Robert Phillips: “Dim ond Caerdydd Canolog sy’n cynnig gwasanaeth wi-fi ar hyn o bryd, ond rydym wedi bod yn asesu’r posibilrwydd o osod cyfleusterau tebyg yn y gorsafoedd mwy i ddechrau, a derbyn bod y seilwaith priodol ar gael. 

“Yng Nghaerdydd Heol y Frenhines, byddai angen i ni gael ceblau ffibr optig ar gael mewn rhai mannau yn yr orsaf, ac y mae Network Rail yn debyg o ddarparu hyn dros y misoedd nesaf. 

“Ein gobaith yn y tymor hir yw darparu cyfleusterau wi-fi ym mhob gorsaf, os bydd modd gwneud hyn.”

Esboniodd fod y cwmni wrthi’n trafod gyda’r Adran Drafnidiaeth ynghylch gosod wi-fi mewn trenau ar y rhwydwaith ac y gallai hyn ddechrau yn ystod ail hanner y flwyddyn nesaf. 

Meddai Leanne Wood: “Rwy’n croesawu’r cynigion i ymestyn wi-fi i orsafoedd rheilffordd yng Nghymru. Yn anorfod o bryd i’w gilydd mae problemau gyda gwasanaethau trenau, ond pan fo hynny’n digwydd, mae’n hollbwysig fod y cyhoedd yn cael y newyddion diweddaraf. 

“Mae cyfathrebu da gyda chwsmeriaid yn hanfodol ar gyfer unrhyw fusnes, ac y mae Trenau Arriva Cymru yn ymwybodol o hyn. Rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu wi-fi mewn gorsafoedd ar hyd a lled y Rhondda.”

Mae Leanne Wood yn gobeithio cael cyfarfod gyda phrif weithredwyr Arriva yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Rhannu |