Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Rhagfyr 2015

Beth yw cyfraniad Cymru at Heddwch?

Cwestiwn amserol iawn sydd gan y cynllun Cymru dros Heddwch yn y tymor hwn o heddwch ag ewyllys da, sef: Yn y 100 mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf, sut mae Cymru wedi cyfrannu at geisio heddwch?

Mae’n gyfle euraidd i ddechrau ateb y cwestiwn, tra bod teuluoedd ymgynnull dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd a’r genhedlaeth iau yn gofyn mwy am eu hanes teuluol. Boed eu cyndeidiau yn filwyr yn y Rhyfel Mawr neu yn Wrthwynebwyr Cydwybodol, boed eu cyn-neiniau yn galaru meibion a gollwyd neu yn ymuno ag ymgyrchwyr heddwch Comin Greenham, mae’r hanesion yma, a’r arteffactau ynghlwm a hwy, yn rhan o hanes teuluol yn ogystal â chenedlaethol.

Fel yr esbonia Pennaeth Cymru dros Heddwch, Craig Owen: “Mae’r cynllun Cymru dros Heddwch yn brosiect treftadaeth sydd hefyd yn edrych i’r dyfodol, gan ei fod yn caniatáu i bobl ifanc heddiw, a’u disgynyddion, i adlewyrchu ar ddewrder ac aberth niferoedd dros y ganrif a fu. Yn ei dro bydd hyn hefyd yn symbylu cenedlaethau’r dyfodol i barhau gyda’r momentwm i ganfod heddwch, Trwy gydol 2016, wrth wirio’n rheolaidd am ddigwyddiadau newydd ar www.cymrudrosheddwch.org, gall bobl wirfoddoli i gefnogi’r apêl genedlaethol yma i gasglu a rhannu ein treftadaeth.”

Gweithgaredd cyntaf y Flwyddyn Newydd yw arddangosfa Cofio dros Heddwch yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth, o’r 16eg o Ionawr hyd yr 16eg o Ebrill. Yn ystod y lansiad swyddogol, ar ddydd Sadwrn 30ain o Ionawr, bydd cyfle yn ystod Diwrnod Agored i drawsgrifio enwau o Lyfr y Cofio y Rhyfel Mawr. Yn ogystal bydd modd i unigolion a grwpiau cymunedol ganfod mwy am wirfoddoli a chefnogi cynllun Cymru dros Heddwch drwy ymchwilio a rhannu'r ‘hanesion cudd’ am aelodau o’u teuluoedd neu gymunedau a fu’n hyrwyddo heddwch. Bydd modd i’r rhai na allant fynychu ganfod newyddion a’r diweddaraf am gyfleoedd gwirfoddoli drwy barhau i wirio ar safle www.cymrudrosheddwch.org drwy gydol 2016.

Mae Cymru dros Heddwch yn brosiect gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru ac mae'r arddangosfa a’r trawsgrifio yn cael eu datblygu ar y cyd â'r Llyfrgell Genedlaethol. Mae Cymru dros Heddwch yn brosiect pedair blynedd sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri ac sy'n cael cefnogaeth gan ddeg o sefydliadau partner gan gynnwys y Llyfrgell Genedlaethol, prifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd, a mudiadau fel yr Urdd a Chymdeithas y Cymod. Mae'r prosiect hwn yn flaengar wrth geisio dechrau trafodaeth am faterion heddwch er lles cenedlaethau'r dyfodol.

Rhannu |