Mwy o Newyddion
Neges Nadolig y Prif Weinidog, Carwyn Jones i bobl Cymru
"Mae cyfnod y Nadolig yn arbennig; yn gyfle i ffrindiau a theuluoedd ddod ynghyd mewn heddwch i ddathlu a mwynhau cwmni ei gilydd."
"Mae'r neges o heddwch a gobaith yn arbennig o deimladwy eleni gan ystyried y digwyddiadau diweddar ym Mharis a Thiwnisia a'r sefyllfa barhaus yn y Dwyrain Canol.
"Adeg y Nadolig, mae'n fwy pwysig nag erioed i ni ledaenu'r neges ynglŷn ag agosatrwydd ac undod yn ein cymunedau. Mae gennym draddodiad balch o fod yn genedl gyfeillgar a chroesawgar. Wrth i hanner cant o ffoaduriaid o Syria ymgartrefu yng Nghymru, byddan nhw'n profi eu Nadolig cyntaf yn y Deyrnas Unedig. Dwi'n siŵr y byddan nhw'n cael croeso cynnes Cymreig, a dymunaf y gorau iddyn nhw â'u bywydau newydd.
"Felly rwy'n gobeithio y cewch i gyd Nadolig Llawen, ond dylem feddwl am y rheini sy'n gweithio'n galed dros yr ŵyl. Mae'r rheini sy'n gweithio i'n gwasanaethau brys, gweithwyr meddygol proffesiynol, elusennau, gofalwyr a'r rheini yn ein lluoedd arfog i gyd yn haeddu'n diolch. Maen nhw'n gweithio'n ddiflino wrth i ni fwynhau.
"Nadolig Llawen i chi gyd. Gobeithio y cewch amser gwych."