Mwy o Newyddion
Plac Islwyn Ffowc Elis
Bydd plac arbennig i goffáu man geni’r nofelydd Islwyn Ffowc Elis yn cael ei ddadorchuddio brynhawn ddydd Llun am 2 o’r gloch yn rhif 12, Y Ffawydd, Wrecsam.
Fe adwaenir Islwyn Ffowc Elis yn bennaf fel awdur y nofelau hynod boblogaidd a dylanwadol Cysgod y Cryman (1953), Yn ôl i Leifior (1956) ac Wythnos yng Nghymru Fydd (1957). Cychwynnodd ei yrfa fel gweinidog i’r Methodistiaid Calfinaidd, cyn troi ei gefn ar yr alwedigaeth honno er mwyn troi ei law at ysgrifennu. Bu hefyd yn gweithio fel cynhyrchydd i’r BBC am gyfnod, yn ogystal â bod yn ddarlithydd yn y Gymraeg mewn ambell sefydliad addysg uwch yng Nghymru.
Enillodd Islwyn Ffowc Elis Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1951 am ei gyfrol o ysgrifau, Cyn Oeri’r Gwaed (1952), a dilynwyd yr anrhydedd hon gan lif o gyhoeddiadau gan yr awdur ifanc. Fe gyfeirir at Islwyn Ffowc Elis yn aml fel yr awdur a osododd sylfeini’r nofel gyfoes Gymraeg. Llwyddodd ei weithiau i ddal dychymyg toreth o ddarllenwyr ifainc, gan lwyddo i lusgo’r nofel Gymraeg i’r ugeinfed ganrif.
Bydd y plac yn cael ei ddadorchuddio gan Mrs Rhiannon Grey Davies, ac mae disgwyl i aelodau eraill o’i deulu fod yn bresennol, ynghyd ag aelodau o Gymdeithas Owain Cyfeiliog. Bydd y seremoni yn para hanner awr, ac mae gwahoddiad i bawb fynd wedyn am de bach yng nghaffi’r Ganolfan Gelfyddydau (Y Llyfrgell).
Bydd gwybodaeth am y plac a’i leoliad, ynghyd â gwybodaeth am Islwyn Ffowc Elis ei hun yn cael ei roi ar wefan Placiau Awduron Llenyddiaeth Cymru. Bydd yn ychwanegiad teilwng at y degau o blaciau awduron eraill sydd eisoes wedi eu cofnodi ar y wefan.
Os gwyddoch am unrhyw blac arall nad ydym eisoes wedi ei gynnwys, neu os oes gennych ddiddordeb mewn codi plac i awdur nodedig yn eich ardal chi, cysylltwch â ni: 029 2047 2266 / post@llenyddiaethcymru.org