Mwy o Newyddion
Nadolig yn cyrraedd yn gynnar i brosiectau cymunedol wrth i'r Gweinidog gyhoeddi hwb o £2.8 miliwn
Mae'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn darparu cyllid grant cyfalaf gwerth hyd at £500,000 i sefydliadau ar gyfer ceisio trechu tlodi drwy greu a gwella adeiladau a chyfleusterau a gaiff eu defnyddio gan y gymuned leol.
Cafodd y deg prosiect diweddaraf a fydd yn elwa ar y cynllun poblogaidd hwn eu cyhoeddi heddiw gan Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi:
Bydd Ffrindiau Llyfrgell Gymunedol Llanfairfechan yng Nghonwy yn derbyn bron i £32,000 i adnewyddu'r llyfrgell, gosod ffenestri newydd a phrynu silffoedd llyfrau symudol fel bod modd i'r gymuned gyfan ddefnyddio'r safle.
Bydd Fforwm Cymunedol Penparcau yng Ngheredigion yn elwa ar £490,000 i ehangu'r hen glwb bocsio a'i droi'n fan cymunedol hyblyg ar gyfer amryw o weithgareddau cymunedol.
Bydd Eglwys Ddiwygiedig Unedig y Tabernacl yn Sir Benfro, sy'n darparu lle ar gyfer gwasanaethau gofal plant, cwnsela a chyngor ar ddyledion, yn cael bron i £228,000 i ailwampio'r adeilad a chodi estyniad ar gyfer cyfleusterau cegin a thŷ bach.
Bydd Canolfan Gymunedol Trefyclo a'r Cylch yn derbyn ychydig o dan £500,000 i ddarparu’r gwasanaeth llyfrgell lleol, i osod bwyler newydd mwy effeithlon o ran ynni ac i ailwampio'r safle er mwyn i fwy nag un grŵp all ei ddefnyddio ar yr un pryd.
Mae Neuadd Eglwys Sant Tomos y Merthyr, adeilad rhestredig Gradd II yn Sir Fynwy, wedi cael £340,000 i greu mynedfa hygyrch ar ochr yr adeilad ac i ailwampio tu fewn yr adeilad er mwyn i’r gymuned gyfan allu defnyddio’r safle.
Bydd Capel y Bedyddwyr Underwood yng Nghasnewydd yn cael dros £130,000 i adeiladu estyniad ar gyfer cyfleusterau cegin a thŷ bach newydd.
Mae Capel y Bedyddwyr Argoed yng Nghaerffili wedi cael hyd at £267,000 i atgyweirio'r to ac i osod system wresogi newydd a ffenestri newydd. Bydd hyn yn diogelu dyfodol yr adeilad ac yn fodd i'r capel gynnig lle diogel ar gyfer mwy o bobl ddigartref dros y gaeaf.
Mae Cymdeithas Lles Glowyr Cwm Trelái yn Rhondda Cynon Taf wedi cael £281,000 i ailddefnyddio cae pêl-droed maint llawn sy’n segur ar hyn o bryd ac adeiladu ystafelloedd newid a thoiledau.
Mae Old Illtydian RFC wedi cael bron i £97,000 i drawsnewid hen lyfrgell y Sblot yng Nghaerdydd yn hwb addas ar gyfer chwaraeon ac ar gyfer y gymuned.
Bydd Ieuenctid a Chymuned Mynydd Cynffig, Corneli a'r Pîl (KPC) ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cael £500,000 i godi adeilad deulawr parhaol yn lle ei lety un llawr dros dro, a fydd yn gartref i amryw o wasanaethau fel hyfforddiant sgiliau sylfaenol am ddim, clwb ieuenctid, a chymorth un-i-un ar faterion TG ac ysgrifennu CV.
Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: “Bydd y £2.8 miliwn yr wyf wedi'i gyhoeddi heddiw'n rhoi bywyd newydd i rai o'r adeiladau a'r mannau sy'n werthfawr iawn i bobl ar draws Cymru.
“Mae'r prosiectau hyn yn hollbwysig i'w cymunedau, gan ddarparu gwasanaethau pwysig sy'n amrywio o gwnsela a gofal plant i gynnig lloches ar gyfer pobl ddigartref a chlybiau gwaith.
“Bydd y cyllid yn galluogi'r prosiectau hyn i ehangu eu gwaith ymhellach, gan agor eu drysau i hyd yn oed mwy o bobl o fewn y gymuned leol."