Mwy o Newyddion
Dros £4m i hybu’r Gymraeg
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi cyhoeddi enwau’r 76 o sefydliadau a fydd yn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg yn ystod 2016-17.
Mae Urdd Gobaith Cymru, Yr Eisteddfod Genedlaethol, Merched y Wawr a Mudiad y Ffermwyr Ifanc ymysg y sefydliadau a fydd yn elwa ar y cyllid hwn. Bydd y cyllid hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cefnogi’r rhwydwaith o ‘bapurau bro’ a ‘Mentrau Iaith’ ar draws Cymru.
Dywedodd y Prif Weinidog: “Bydd y pecyn hwn o gymorth yn galluogi’r sefydliadau hyn - y mae sawl un yn rhan annatod o hunaniaeth a diwylliant Cymru - i barhau â’u rôl flaengar ym maes hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg ar lawr gwlad.
“Hoffem sicrhau dyfodol cadarn ar gyfer y Gymraeg ac rydym yn gwybod bod llawer iawn o unigolion, grwpiau a sefydliadau ar draws Cymru eisoes yn cyflawni gwaith rhagorol yn y maes hwn.
"Bydd y £4 miliwn yn sicrhau ein bod yn parhau i adeiladu ar y llwyddiannau hyn a’u hategu, gan greu cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg newydd a phrofiadol ddefnyddio’r iaith, rhannu eu profiadau a mwynhau eu hunain drwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod y flwyddyn sydd i ddod ac am flynyddoedd eto.
Dyma grynodeb o’r dyraniadau y bydd y sefydliadau’n eu derbyn:
Sefydliad Dyraniad Grant 2016-17
CFFI Cymru 89,719
Cymdeithas Eisteddfodau Cymru 46,036
Eisteddfod Genedlaethol 603,000
Merched y Wawr 84,205
Mentrau Iaith Cymru 110,000
Urdd Gobaith Cymru 852,184
Cered 120,626
Hunaniaith 220,262
Menter Iaith Abertawe 102,145
Menter Iaith BGTM 78,332
Menter Bro Ogwr 60,000
Menter Caerdydd & Y Fro 186,736
Menter Caerffili 95,552
Menter Iaith Casnewydd 60,000
Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot 77,415
Menter Iaith CNPT Cynllun Aman Tawe 38,000
Menter Iaith Conwy 105,570
Menter Iaith Sir Ddinbych 81,583
Menter Iaith Merthyr 60,000
Menter Môn 133,060
Mentrau Iaith Powys 132,591
Menter Iaith Rhondda Cynon Taf 107,768
Menter Iaith Sir Benfro 90,279
Mentrau Iaith Sir Gâr 281,505
Mentrau Iaith Sir Gâr Cynllun Aman Tawe 38,000
Mentrau Iaith Fflint a Maelor 132,043
Is-Gyfanswm £3,986,611
Papurau Bro (gweler y tabl isod) 88,880
Cyfanswm £4,075,491
Enw’r Papur Bro Grant a argymhellir Sawl rhifyn bob blwyddyn*
Y Fan a’r Lle 800 4
Dan y Landsker 1,200 6
Y Clawdd 1,200 6
Clochdar 1,700 10
Clonc 1,700 10
Cwlwm 1,700 10
Dail Dysynni 1,700 10
Glo Mân 1,700 10
Goriad 1,700 10
Llais 1,700 10
Llais Aeron 1,700 10
Nene 1,700 10
Papur Dre 1,700 10
Papur Fama 1,700 10
Papur Menai 1,700 10
Papur Pawb 1,700 10
Papur y Cwm 1,700 10
Pethe Penllyn 1,700 10
Tafod Elai 1,700 10
Tua’r Goleuni (Cwm Ni) 1,700 10
Wilia 1,700 10
Y Barcud 1,700 10
Y Bigwn 1,700 10
Y Cardi Bach 1,700 10
Y Dinesydd 1,700 10
Y Gambo 1,700 10
Y Garthen 1,700 10
Y Glannau 1,700 10
Y Gloran 1,700 10
Y Glorian 1,700 10
Y Llien Gwyn 1,700 10
Y Lloffwr 1,700 10
Y Rhwyd 1,700 10
Y Tincer 1,700 10
Yr Angor (A|) 1,700 10
Yr Angor (L) 1,700 10
Yr Arwydd 1,700 10
Yr Hogwr 1,700 10
Clebran 1,870 11
Eco’r Wyddfa 1,870 11
Llais Ardudwy 1,870 11
Llais Ogwan 1,870 11
Lleu 1,870 11
Plu’r Gweunydd 1,870 11
Seren Hafren 1,870 11
Y Ddolen 1,870 11
Y Dwfrgi 1,870 11
Y Ffynnon 1,870 11
Y Pentan 1,870 11
Yr Odyn 1,870 11
Yr Wylan 1,870 11
Yr Ysgub 1,870 11
*mae’r dyraniad yn seiliedig ar fformiwla cyllid sy’n gysylltiedig â sawl rhifyn a gaiff ei gyhoeddi bob blwyddyn.