Mwy o Newyddion

RSS Icon
23 Rhagfyr 2015

Gobeithio llwyddo i gadw at eich addunedau Blwyddyn Newydd? Gwnewch hynny fel teulu

Bydd y mwyafrif ohonom ni yn cychwyn mis Ionawr 2016 yn llawn bwriadau da - caiff siocled ei osgoi, caiff diodydd meddwol eu gwahardd a byddwn ni’n estyn ein dillad campfa o gefn y wardrob ac yn gwneud defnydd da ohonyn nhw.

Fodd bynnag, dengys ymchwil mai dim ond un o bob deg ohonom ni fydd yn llwyddo i gadw at ein Haddunedau Blwyddyn Newydd mewn gwirionedd. Ond mae ymgyrch GemauAmOes Llywodraeth Cymru, sydd wedi bod yn helpu teuluoedd ledled Cymru i fod yn fwy egnïol yn ystod cyfnod y Gaeaf, wedi llunio pump o gynghorion doeth i sicrhau llwyddiant ag addunedau.

1)    Rhannwch eich addunedau yn dargedau bychan, cyraeddadwy. Os yw eich addunedau yn rhy gyffredinol - er enghraifft, byddwch chi’n addo colli pwysau, rhoi’r gorau i ysmygu neu gadw’n heini - rydych chi’n llai tebygol o lwyddo. Fodd bynnag, os byddwch chi’n addo mynd i redeg am 20 munud ddwywaith yr wythnos, neu fwyta pwdin ar y penwythnos yn unig, byddwch chi’n llawer mwy tebygol o gyflawni eich nod yn y pen draw.

2)    Peidiwch â disgwyl tan Nos Calan i wneud eich addewid. Yn lle hynny, treuliwch ychydig ddyddiau yn ystyried pam rydych chi’n dymuno newid eich ymddygiad a sut gwnaiff hynny newid eich bywyd. Bydd hynny yn fwy tebygol o wneud i chi feddwl yn bositif wrth i chi geisio gweithredu eich adduned.

3)    Dywedwch wrth eich ffrindiau a’ch teulu am eich nod / neu, yn well fyth, cynhwyswch eich teulu yn eich adduned fel gallan nhw eich annog i lwyddo. Bydd ymgyrchoedd fel GemauAmOes Cymru yn arwain at lwyddiant yn y tymor hir, oherwydd byddan nhw’n annog y teulu cyfan i gyfranogi mewn gweithgareddau beunyddiol, felly gallwch chi annog eich gilydd bob dydd.

4)    Dathlwch eich llwyddiant. Pan fyddwch chi wedi pennu nodau bychan i chi eich hun, dylech chi wobrwyo eich hun bob tro byddwch chi’n llwyddo, waeth pa mor fach fydd eich llwyddiannau. A wnaethoch chi chwarae pêl/droed am 20 munud cyn cinio gyda’r plant? Rhowch wobr fechan sydd ddim yn fwyd i chi eich hun.  

5)    Cadwch ddyddiadur o’ch cynnydd. Mae rhesymau da dros annog plant i wneud cynnydd, boed hynny yn yr ysgol neu fel rhan o ymgyrchoedd fel GemauAmOes Cymru, gan ddefnyddio siartiau ar waliau neu sêr aur. Os gallwch chi gadw cofnod o’ch cynnydd, fe wnaeth hynny eich annog i gadw at eich nodau.

Dywedodd un o lysgenhadon GemauAmOes Cymru, Katie Farmer: “Bydd pawb yn ceisio gwneud newidiadau positif yn ystod y Flwyddyn Newydd, ond gallan nhw fod mor anodd cadw atyn nhw.

"Fel teulu, rydym ni wedi bod yn mwynhau gweithgareddau GemauAmOes Cymru ers mis Hydref, ac yn ôl ein profiad ni, mae chwarae gemau syml a difyr gyda’n gilydd wedi helpu i wneud ymarfer corff yn rhan o’n bywyd beunyddiol. Ac mae gwneud adduned i ddilyn GemauAmOes Cymru gyda’n gilydd wedi helpu i gymell pob un ohonom ni. Rwyf i’n sicr y byddwn ni’n parhau i gadw at yr addewidion hyn ymhell wedi 4 Ionawr, pan ddaw’r ymgyrch i ben.”

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Ruth Hussey, fod sicrhau bod ffitrwydd a deiet iach yn rhan o’ch Addewidion Blwyddyn Newydd yn benderfyniad doeth.

“Mae sicrhau fod gan blant bwysau iach pan fyddan nhw’n ifanc yn golygu eu bod nhw’n fwy tebygol o dyfu i fyny i fyw bywydau iach. Mae’r gwrthwyneb hefyd yn wir. Gall plant gordew ddioddef problemau iechyd pan fyddan nhw’n ifanc, ond maen nhw’n fwy tebygol o fod yn ordew yn ystod oedolaeth hefyd. Gall hyn arwain at nifer o broblemau iechyd difrifol, yn cynnwys diabetes math 2 a chlefyd coronaidd y galon.

"Roedd adroddiad Rhaglen Mesur Plant Cymru 2013/14 yn dangos graddfa'r broblem yng Nghymru, yn enwedig yn rhannau mwy difreintiedig y wlad.  Roedd 28.5 y cant o'r plant oedd yn byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru yn ordrwm neu'n ordew, o'i gymharu â 22.2 y cant yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig."

Ychwanegodd Dr Hussey: “Er nad oes ateb syml i'r mater cenedlaethol hwn, mae camau positif a all helpu. Mae cysgu digon, cyfyngu ar yr amser a dreulir o flaen sgriniau a rhoi mwy o bwyslais ar chwarae oll yn helpu i reoli lefelau pwysau a ffitrwydd plant.

“Dyma un o'r materion mwyaf sy'n wynebu plant a theuluoedd yn y wlad hon ac mae gan bawb gyfraniad i'w wneud i sicrhau fod ein plant yn tyfu i fyny i fyw bywydau iach ac egnïol.” 

 

Gallwch chi gofrestru i gael pecyn am ddim yma: www.newidamoes.org.uk neu www.change4lifewales.org.uk yn 4 Ionawr. Bydd pawb sy’n cofrestru yn cael cyfle i ennill un o blith 50 o wobrau gwych, yn cynnwys hyfforddwyr personol, oriawr pedomedr clyfar ac aelodaeth deuluol blwyddyn CADW.

 

Cofiwch ddilyn ymgyrchoedd GemauAmOes Cymru trwy droi at:

www.facebook.com/Newidamoes neu ar Twitter: @newidamoes.

Rhannu |