Mwy o Newyddion
Bron 3,000 o bobl yn dod i arddangosfeydd yr M4
Daeth bron 3,000 o bobl i’r arddangosfeydd cyhoeddus a gynhaliwyd yn ddiweddar i amlinellu’r hyn sydd gan Lywodraeth Cymru mewn golwg ar gyfer Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd, ac ymwelwyd â gwefan y prosiect 7,400 o weithiau yn ystod y cyfnod hwnnw.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad gwerthuso am yr arddangosfeydd, gan edrych ar nifer y bobl a fu’n bresennol, ar ansawdd ac effeithiolrwydd yr wybodaeth a ddarparwyd, ac ar faterion a chwestiynau a godwyd.
Bydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio bellach wrth i gamau dylunio’r prosiect fynd rhagddynt, a hefyd wrth gyhoeddi Gorchmynion Statudol drafft a Datganiad Amgylcheddol yng ngwanwyn 2016.
Yn ystod mis Medi, cynhaliwyd pum arddangosfa dau ddiwrnod rhwng Magwyr a Chas-bach a hefyd bedair arddangosfa symudol undydd mewn ardaloedd siopa ar draws y De.
Roedd yr wybodaeth a ddarparwyd yn yr arddangosfeydd i’w gweld ar-lein hefyd ac roedd yn cynnwys fideo wedi’i animeiddio yn esbonio cefndir y prosiect, hynt y gwaith arno ac efelychiad cyfrifiadurol i ddangos y ffordd a’r bont newydd.
Dywedodd Edwina Hart, y Gweinidog Trafnidiaeth: ‘Dw i’n falch o weld bod cynifer o bobl wedi achub ar y cyfle i gael cip ar y gwaith sy’n mynd rhagddo i ddatblygu’r prosiect hynod bwysig hwn.
"Bydd yr adborth a gafwyd yn ystod yr arddangosfeydd yn cael ei ddefnyddio bellach yn ystod y camau dylunio nesaf.”
Mae’r adroddiad gwerthuso i’w weld ar http://llyw.cymru/m4casnewydd