Mwy o Newyddion

RSS Icon
22 Rhagfyr 2015

Darparwch ginio iach i adar gardd y Nadolig hwn, meddai RSPB Cymru

Rhowch wledd yr ŵyl i adar gardd y Nadolig hwn, ond peidiwch â chynnwys braster cig peryglus ar y fwydlen 

Mae RSPB Cymru yn annog pobl i roi’r bwyd sydd dros ben yn eu tuniau rhostio ar ôl eu cinio Nadolig yn y bin gwastraff bwyd a ddim yn yr ardd y Nadolig hwn gan fod braster cig yn beryglus iawn i adar.

Dylai pobl osgoi gadael braster twrci wedi’i goginio ar fyrddau adar oherwydd, yn wahanol i fraster arall fel lard a siwet, gall braster twrci wedi’i goginio ladd yr adar bach sy’n dod i’n gerddi.

Mae’r braster yn dal i fod yn feddal hyd yn oed ar ôl oeri, a gallai daenu ar blu’r adar yn rhwydd iawn a difetha eu nodweddion dal dŵr a chadw’n gynnes. Rhaid i adar gadw eu plu yn lân ac yn sych os ydyn nhw am oroesi tywydd oer y gaeaf, ond byddai haen o saim yn gwneud hynny bron yn amhosib.

Gall braster mewn tuniau rhostio suro’n gyflym iawn os yw wedi cymysgu â suddion cigoedd eraill a’i adael mewn cegin gynnes cyn cael ei roi allan. Dyma’r amgylchedd perffaith i salmonela a bacteria gwenwyn bwyd eraill ddatblygu, ac fel yn achos pobl, gallai hyn fod yn angheuol i adar yr adeg hon o’r flwyddyn, gan nad ydyn nhw mor wydn ac am nad oes ganddyn nhw gymaint o egni oherwydd yr oerni. 

Bydd pobl yn ychwanegu halen at gig cyn ei goginio yn aml iawn. Ond, mae llawer o halen yn wenwynig i adar gardd, felly mae RSPB Cymru yn annog pobl i beidio â gadael braster wedi’i goginio o unrhyw gig ar fyrddau adar y Nadolig hwn.

Y  newyddion da yw bod pethau eraill y gallwch eu rhoi allan i’r adar i’w denu i’ch gardd dros y Nadolig. Yn hytrach na rhoi braster o'r tun rhostio allan i'r adar, mae RSPB Cymru yn annog pobl i roi bwydydd eraill blasus allan iddyn nhw y Nadolig hwn. Mae’n bwysig bod adar yn cael mwy o fwyd yn ystod y cyfnod hwn, ac mae llawer o ddewis gwych ar gael. Mae cymysgedd o hadau adar a pheli siwet yn wych i adar ar gyfer misoedd y gaeaf ac yn darparu’r maetholion angenrheidiol iddyn nhw. Mae rhai o’r bwydydd sy’n weddill ar ddiwrnod Nadolig ac sy’n addas ar gyfer adar gardd yn cynnwys briwsion cacenni, briwsion crwst mins peis a briwsion bisgedi.

Dywedodd Bethan Lloyd, Rheolwr Cyfathrebu RSPB Cymru: “Mae’n hynod bwysig nad ydy pobl yn rhoi’r braster o’u tuniau rhostio allan yn eu gerddi.

“Mae nifer o bobl yn credu bod gadael braster twrci wedi’i goginio allan yn beth da i’r adar, ond mewn gwirionedd, gall gael effaith ofnadwy ar ein ffrindiau bach pluog. Dim ond braster pur fel lard a siwet ddylid ei ddefnyddio i wneud peli braster i'r adar, a fydd yn rhoi’r egni a’r maeth sydd eu hangen arnyn nhw i oroesi dros fisoedd oer y gaeaf.

“Bydd rhoi rhywfaint o'r bwydydd blasus hyn sy’n cael eu hargymell allan yn yr ardd yn annog adar fel yr aderyn du, y robin goch a’r dryw i ddod i’ch gardd yn barod ar gyfer y Big Garden Birdwatch ym mis Ionawr.”

Mae RSPB Cymru yn argymell yn gryf eich bod yn gadael braster cig i oeri a’i roi yn y bin gwastraff bwyd - dim i lawr y sinc. Mae cwmnïau dŵr hefyd yn annog pobl i gael gwared â braster cig fel hyn.

I gael rhagor o gyngor ynghylch sut gallwch roi cartref i fyd natur yn eich gardd, ewch i: rspb.org.uk/homes

Rhannu |