Mwy o Newyddion

RSS Icon
22 Rhagfyr 2015

Hel atgofion am bafiliwn pinc yr Eisteddfod

A ninnau ar drothwy cyfnod newydd yn hanes yr Eisteddfod Genedlaethol, gyda phafiliwn newydd yn cael ei ddefnyddio o 2016 ymlaen, daeth yn bryd i ffarwelio â’r Pafiliwn Pinc eiconig, yr adeilad a fu’n gartref i nifer fawr o gystadlaethau’r Eisteddfod am y ddegawd ddiwethaf.

Mae trefnwyr yr Eisteddfod yn awyddus i glywed eich atgofion chi am y Pafiliwn – fel cyn-gystadleuwyr, fel cynulleidfa, fel Eisteddfodwyr. 
Beth oedd yn arbennig am y babell binc a’i thyrrau pigog?  A fuoch chi’n dathlu llwyddiant ar ei llwyfan, neu a gawsoch chi gam wrth gystadlu? Beth bynnag eich stori, rhannwch hi!

Ac fel man cychwyn i’r hel atgofion, rydym ni wedi bod yn tyrchu drwy hen raglenni ac adroddiadau o’r Eisteddfod, er mwyn casglu ambell ffaith ddiddorol at ei gilydd. 
2006 oedd blwyddyn gyntaf y Pafiliwn Pinc, pan gynhaliwyd yr Eisteddfod yn Abertawe.

Erbyn 2005, roedd yr hen bafiliwn streipiog wedi gweld dyddiau gwell, ac roedd elusen gancr wedi cysylltu â’r cwmni llogi strwythurau i ofyn am bafiliwn pinc.
Ond roedd rhaid cael sefydliad arall i gytuno i’w ddefnyddio er mwyn ei wneud yn syniad hyfyw.  

Fe gytunodd yr Eisteddfod, heb wybod beth fyddai’r adwaith a’r ymateb, ond o’r munud cyntaf pan gyrhaeddodd y pafiliwn pinc, cafodd groeso brwd.

Felly am y ddegawd nesaf, roedd pedair lori gymalog 15 medr yn cyrraedd y Maes yn llawn o focsys o babell, ac yna, byddai 30 o weithwyr wrthi am bedwar diwrnod yn codi’r babell, cyn gosod y seddi, y llwyfan a’r set.

Enillydd y gystadleuaeth gyntaf yn y Pafiliwn Pinc oedd Band Glyn-nedd a’r Cylch, a ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth Bandiau Pres (Dosbarth 4) ar fore Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod yn Abertawe. 

Yr enillydd unigol cyntaf oedd Eilir Pryce o Aberystwyth, a gipiodd y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth Llefaru o’r Ysgrythur o dan 16 oed ar y dydd Sul.

Ers hynny, mae cynulleidfa’r Pafiliwn, a’r rheiny sy’n gwylio a gwrando adref, wedi mwynhau 418 o berfformiadau gan gorau mewn amrywiaeth eang o gystadlaethau, gyda chôr CF1 yn cael y clod o gael eu ‘gosod’ mewn cystadleuaeth (gan ennill y wobr gyntaf, ail neu thrydydd) fwyaf aml, a hynny 10 o weithiau dros y ddegawd ddiwethaf. 

Mae’r penwythnos cyntaf yn y Pafiliwn yn adnabyddus fel ‘penwythnos y bandiau pres’ – yr unig gystadleuaeth bandiau pres ym Mhrydain sy’n cael ei dangos ar y teledu, ac mae’r cystadlaethau’n hynod boblogaidd, gyda 184 o fandiau wedi ymddangos ar y llwyfan yn ystod oes y Pafiliwn Pinc.

Mae tipyn o newid a symud adrannau wedi bod dros y blynyddoedd, ond mae’r bandiau wedi aros yn driw i’r Eisteddfod.

Ond pwy feddech chi sydd wedi ymddangos fwyaf aml ar y llwyfan fel unigolyn yn ystod y cyfnod?  Ni fydd yr enw yn syndod i gefnogwyr brwd yr Eisteddfod. Mae Steffan Rhys Hughes wedi gweithio’i ffordd drwy’r rhan fwyaf o gystadlaethau ieuenctid yr Eisteddfod, gan ymddangos ar y llwyfan 41 o weithiau mewn degawd! 

Ac wrth feddwl ei fod wedi llwyddo yn y rhagbrofion er mwyn cyrraedd y llwyfan yn y lle cyntaf, mae hyn yn dipyn o gamp, a llongyfarchiadau mawr iddo fo. 
A dyma’r her rŵan i Steffan ac unigolion eraill, beth am fynd ati i guro’r record hon ar lwyfan y pafiliwn newydd sbon?

Katherine Jenkins oedd y gyntaf i berfformio ar y llwyfan yng nghyngerdd agoriadol yr Eisteddfod yn Abertawe. 

Y perfformwyr olaf i ymddangos yn un o gyngherddau’r Eisteddfod ym Maldwyn a’r Gororau oedd John Owen-Jones, Côr CF1, Luke McCall, Rhian Lois, Cast Les Miserables Canolfan y Mileniwm a’r Urdd a’r gyflwynwraig, Alex Jones, gyda Cherddorfa John Quirk.  Dipyn o gyngerdd i gloi oes aur y Pafiliwn Pinc!

Cysylltwch gyda’r trefnwyr os oes gennych chi unrhyw atgofion yr hoffech eu rhannu am y Pafiliwn Pinc.  Anfonwch neges at gwyb@eisteddfod.org.uk.  Fe fyddem wrth ein boddau yn clywed gennych.  Ewch i’n gwefan, www.eisteddfod.cymru/pafiliwn am luniau a rhagor o hanes pafiliynau’r gorffennol.

Edrychir ymlaen i gael y pafiliwn newydd yn ei le ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau, a gynhelir ar Ddolydd y Castell, Y Fenni, o 29 Gorffennaf – 6 Awst.  Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein.

Rhannu |