Mwy o Newyddion
100 diwrnod o arweinyddiaeth newydd yn dangos nad yw Llafur yn gymwys i lywodraethu
Wrth i arweinydd newydd Llafur, Jeremy Corbyn, nodi 100 diwrnod yn y swydd heddiw mae Jonathan Edwards AS Plaid Cymru wedi beirniadu "anhrefn, anghydfod ac anffyddlondeb" Llafur gan honni nad yw'r blaid yn ffit i lywodraethu.
Dywedodd Mr Edwards tra bod Plaid Cymru yn canolbwyntio ar gyflwyno rhaglen uchelgeisiol ar gyfer llywodraethu ar ol etholiad Cynulliad 2016, roedd y blaid Lafur hunanobsesiynol yn rhy brysur yn syllu yn y drych gan olygu eu bod yn wan fel gwrthblaid yn San Steffan ac yn wan mewn grym yng Nghymru.
Ychwanegodd yn sgil Llywodraeth Lafur sy'n rheoli tranc gwasanaethau cyhoeddus fod Cymru yn haeddu plaid gryf ac unedig mewn grym sy'n medru canolbwyntio ar wrth-droi record Llafur o fethiant ar iechyd, addysg a'r economi.
Dywedodd Mr Edwards: "Mae'r 100 diwrnod diwethaf wedi dangos i ni fod y Blaid Lafur yn llawn anhrefn, anghydfod ac anffyddlondeb. Mae ASau Llafur yn gwrthryfela.
"Gyda nifer o ASau Llafur yn hogi eu cyllyll yn barod i drywanu Jeremy Corbyn yn ei gefn o'r diwrnod cyntaf, mae hi'n amlwg fod y mwyafrif helaeth o Aelodau Seneddol Llafur yn agosach at y Ceidwadwyr nag at eu Arweinydd ac aelodaeth eu plaid.
"Tra bod yn Ceidwadwyr yn cyflwyno llymder di-dostur, blaenoriaeth ASau hunanobsesiynol Llafur yw i danseilio Mr Corbyn. Dim syndod fod hyd yn oed y cyn-Brif Weinidog Rhodri Morgan bellach yn dweud fod Llafur fwy neu lai yn ddwy blaid.
"Nid yw plaid sydd wedi ei phlagio gan y fath broblemau yn gymwys i lywodraethu. Mae Llafur wedi dangos ei bod yn wan fel gwrthblaid yn San Steffan ac yn wan mewn grym yng Nghymru.
"Mae'r mwyafrif o sylwebwyr yn gytun mai'r wir wrthblaid yn San Steffan yw Plaid Cymru a'r SNP, ac mai'r unig ddewis amgen i reolaeth Geidwadol di-derfyn yw i sicrhau mwy o bwerau i Gymru.
"Ar yr un pryd, mae gennym Lywodraeth Lafur yng Nghymru sy'n gwrthod mynnu'r pwerau hyn ac yn rheoli tranc ein gwasanaethau cyhoeddus. Maent wedi methu ym mhob prif faes cyfrifoldeb - iechyd, addysg a'r economi.
"Fis Mai bydd gan bobl Cymru gyfle i ethol llywodraeth wedi ei hysgogi gan uchelgais i symud ein cenedl ymlaen, nid un sydd wedi ei gyrru gan hunan-ddiddordeb sy'n ei gadael yn edrych tua mewn.
"Mae gan Blaid Cymru dîm cryf ac unedig yn barod i arwain Cymru gyda rhaglen lywodraeth fydd yn gwrth-droi mwy na degawd o ddirywiad Llafur a sicrhau fod gan bobl y gwasanaethau cyhoeddus maent yn eu haeddu."