Mwy o Newyddion
Amserau cwblhau ar gyfer achosion gofal yn y Llys Teulu yng Nghymru wedi cael eu torri fwy na hanner
MAE’R amser a gymerwyd gan lys teulu yng Nghymru i benderfynu a ddylai roi plentyn yng ngofal awdurdod lleol wedi cael ei dorri fwy na hanner a bod bron 77% o’r achosion wedi cael eu cwblhau o fewn terfyn amser newydd o 26 wythnos, yn ôl adroddiad newydd.
Mae Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd yng Nghymru (CAFCASS Cymru) yn chwarae rhan allweddol mewn achosion gofal drwy helpu i leihau’r amser cwblhau cyfartalog o 57 wythnos yn 2011-2012 i lai na 26 wythnos yn 2014-15 – y canlyniad gorau yn y DU ar hyn o bryd.
Daeth terfyn amser o 26 wythnos i rym ym mis Ebrill 2014 o dan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 o ganlyniad i adolygiad eang o’r System Cyfiawnder Teuluol yng Nghymru a Lloegr. Ei nod oedd lleihau oedi ym mhroses y Llys Teulu, gan leihau ansicrwydd i blant a phobl ifanc, a’r niwed posibl i’w datblygiad.
Mae adroddiad blynyddol CAFCASS Cymru ar gyfer 2014-15 yn dangos mai 24.9 wythnos ar draws Cymru oedd yr amser aros cyfartalog ar gyfer achosion cyfraith gyhoeddus yn 2014-15 (lle mae awdurdodau lleol yn gwneud cais i’r llysoedd am orchymyn gofal plentyn). Cafodd 76.7% o achosion eu datrys o fewn 26 wythnos. Mae hyn yn welliant ar yr amser aros cyfartalog o 56.7 wythnos yn 2011-12, a 27 wythnos yn 2013-14.
Cafodd 7,430 o blant a phobl ifanc gymorth yn ystod 2014-15. Roedd y rhan fwyaf o’r plant a gafodd gymorth gan CAFCASS Cymru (82%) yn 10 oed neu’n iau.
Dywedodd Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae sicrhau bod rhai o’r plant mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas yn cael sicrwydd am eu dyfodol hirdymor cyn gynted â phosibl yn gwbl hanfodol wrth ddarparu sefydlogrwydd yn eu bywydau.
“Rwy’n hynod o falch bod CAFCASS Cymru wedi helpu i gyrraedd y garreg filltir arwyddocaol hon. Nod diwygio’r System Cyfiawnder Teuluol oedd sicrhau bod anghenion plant wrth wraidd y penderfyniadau a wneir amdanynt gan y llysoedd. Rwy’n hollol sicr y bydd miloedd o blant a phobl ifanc ledled Cymru yn elwa’n fawr ar y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan CAFCASS Cymru.”
Dywedodd Gillian Baranski, Prif Weithredwr CAFCASS Cymru: “Mae cyrraedd y targed o 26 wythnos ar gyfer cwblhau achosion gofal wedi bod yn garreg filltir allweddol. Mae Cymru yn un o dair ardal yn unig yn y DU sydd wedi cyflawni hyn ac, o ganlyniad, mae llawer o blant a phobl ifanc sy’n agored i niwed wedi cael gwybod yn gynharach am eu dyfodol.
“Mae’r llwyddiant hwn yn dyst i gryfder y trefniadau partneriaeth sydd gennym ar draws Cymru. Ni allai unrhyw un sefydliad ar ei ben ei hunan fod wedi cyflwyno’r newidiadau hyn. Mae wedi bod yn gyfnod heriol ar gyfer ein staff, ond mae eu hymrwymiad a’u penderfyniad i wella canlyniadau i blant wedi galluogi CAFCASS Cymru i chwarae ei ran ochr yn ochr ag Awdurdodau Lleol a Llysoedd a Gwasanaethau Tribiwnlys Ei Mawrhydi wrth gyflawni’r gwelliant nodedig hwn.”