Mwy o Newyddion

RSS Icon
18 Rhagfyr 2015

Disgynydd Michael D Jones yn canfod 500 o berthnasau

WRTH i flwyddyn dathlu sefydlu’r Wladfa ym Mhatagonia dynnu tua’i therfyn mae un o ddisgynyddion ei sylfaenydd yn dweud ei fod wedi canfod bron i 500 o’i berthnasau, o’r gorffennol a’r presennol.  

Mewn erthygl yn rhifyn diweddaraf Gwreiddiau Gwynedd Roots, cylchgrawn Cymdeithas Hanes Teuluol yr hen sir, mae Alun Owen o Lannau Mersi yn sôn am ei ymgais i enwi pob un oedd yn ddisgynnyd i’w hen hen daid.

Roedd Michael D Jones yn hen daid i’w fam, Myfanwy, oedd yn enedigol o’r Bala.  Roedd ei mam hi, Elizabeth Rhys (Evans ar ôl priodi), yn wyres i’r sylfaenydd.  Er ei bod wedi ei geni ym Mangor i Myfanwy Rhys, merch Michael D Jones, cafodd ei hanfon i Bodiwan, y Bala i’w magu gyda’i thaid a’i nain.

Dechrau yn unig ar y gwaith oedd hynny i Alun Owen, a anwyd yn y Bala, ac erbyn hyn mae wedi dod o hyd i berthnasau iddo yn America, Awstralia a Phatagonia yn ogystal â rhannau o’r Alban, Lloegr a Chymru. Mae wedi cyflwyno’r cart achau gyda’r holl enwau i’r Llyfrgell Genedlaethol. Daeth i wybod am un rhan o’r teulu na wyddai ddim amdanynt nes iddo ddechrau chwilio.

“Mae’n ymddangos nad oedd dim cysylltiad rhwng Nain yn y Bala a’i mam ym Mangor a chlywais i erioed am ochr Bangor i’r teulu,” meddai. 

“Ers i mi ddechrau chwilio ddwy flynedd yn ôl yr ydw i wedi dod i wybod am ‘deulu Bangor’ ac wedi cyfarfod rhai o fy nghyfyrdyr am y tro cyntaf.”

Roedd Myfanwy Rhys, chwaer Llwyd ap Iwan a Mihangel ap Iwan a ymfudodd i Batagonia, yn wraig i’r Athro Thomas Rhys o Goleg Bala Bangor. Mae eu cartref yn Green Bank, ger pier Bangor, yn dal yn eiddo i’r teulu.

Yno y bu eu mab, Thomas ap Rhys, yn byw ar eu holau.  Cafodd ei ddallu yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac ef oedd un o’r rhai cyntaf i gael ci tywys. Safodd dros y Blaid Lafur yn erbyn Lloyd George yn etholiad cyffredinol 1929.

“Mae ei fab yn byw yn Baltimore, UDA.  Thomas ydi yntau ac mae’n dal i gadw’r tŷ ym Mangor.  Roedd ganddo ddwy chwaer ond hyd yma dwi ddim wedi cael hyd iddyn nhw, ond mae un o’r teulu yn byw yn British Columbia mae’n bosib.”

Ar daith i Batagonia ddwy flynedd yn ôl cyfarfu Mr Owen â sawl aelod o’i deulu, y diweddar Tegai Roberts a’i chwaer, Luned Gonzales a’i meibion yn eu plith. Aeth i Nant y Pysgod lle saethwyd Llwyd ap Iwan ac i fynwent Esquel lle mae ei fedd.  Ei frawd, Mihangel ap Iwan, oedd wedi dewis y geiriau i’w rhoi ar y garreg.

Gyda theulu yn Buenos Aires y cafodd ragor o wybodaeth am Mihangel.  Roedd wedi mynd yn ddoctor a chyrhaeddodd Chubut yn 1888 ac aros am ddwy flynedd cyn mynd i Buenos Aires a phriodi Saesnes.  Cadwodd gysylltiad â Nant y Pysgod ac yno y cafodd stroc yn 76 oed.

“Mae ‘na sôn mai dim ond Cymraeg oedd yn siarad wedyn ac roedd ei deulu a siaradai Sbaeneg a Saesneg yn cael trafferth i’w ddeall,” eglura Alun Owen. “Bu ei fab, y Dr Trevor ap Iwan yn edrych ar ei ôl yn yr Ysbyt Brydeinig yn Buenos Aires a bu farw yn 1944 yn 81 oed.”

Mae’n credu ei fod wedi canfod 98% o’r disgynyddion ac wedi ysgrifennu’r erthygl i’r cylchgrawn cyflwynodd ffrwyth ei lafur i’r Llyfrgell Genedlaethol.
Ar y cart achau sy’n ymestyn dros saith tudalen mae rhagor na 470 o enwau.

Llun: Alun Owen a’i gyfyrderes Helen Trevor Davies o flaen llun o Michael D Jones gan William Williams, ap Caledfryn sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol

Rhannu |