Mwy o Newyddion

RSS Icon
18 Rhagfyr 2015

Pwysau’r gaeaf eisoes yn taro’r GIG

Mae Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru Elin Jones wedi galw ar y Llywodraeth Lafur yng Nghymru i gymryd camau i roi trefn ar y system gofal argyfwng  rhag i argyfyngau’r gaeaf blaenorol ddigwydd eto.

Tynnodd sylw at ffigyrau newydd oedd yn dangos, ym mis Tachwedd, fod 2,354 o bobl ddaeth i adrannau brys mawr wedi aros am dros 12 awr i gael eu gweld.

Yr oedd y perfformiad yn erbyn y targed 4 awr i lawr hefyd, gyda dim ond 77% o bobl yn cael eu gweld ymhen 4 awr - dirywiad ar y perfformiad flwyddyn yn ôl.

Dengys y ffigyrau am yr Alban, yn ystod y cyfnod o 2 Tachwedd tan 6 Rhagfyr, cyfnod o bum wythnos, mai dim ond 56 o gleifion fu’n aros mwy na 12 awr, ac yr oedd y perfformiad yn erbyn y targed 4 awr yn amrywio o 94.3% i 95.3% am bob un o’r wythnosau.

Dywedodd Elin Jones: “Mae meddygon mewn adrannau brys yn canolbwyntio ar y rhai sydd yn ddifrifol wael, ac y mae hynny, wrth gwrs, yn iawn; ac yn ystod y gaeaf fe wyddom fod llawer o’r achosion mewn adrannau brys yn fwy cymhleth ac angen mwy o amser i gael eu trin.

"Fodd bynnag, mae’r ystadegau am amser a dreulir mewn adrannau brys yn rhoi darlun i ni o’r modd y mae’r system yn ymdopi. Mae’r ffaith fod amseroedd aros yn hwy nac yn yr un cyfnod llynedd yn achos pryder, ac yn dangos na ddysgwyd gwersi o aeafau blaenorol.

“Ym mis Tachwedd, arhosodd 2,354 o bobl yn hwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau - arhosodd bron i 2,300 yn fwy o bobl na nifer y rhai oedd yn aros cyhyd â hynny yn yr Alban dros y cyfnod cyfatebol.

"Petai’r llywodraeth Lafur wedi sicrhau gwell mynediad at feddygon teulu ac Unedau Mân Anafiadau, a gwell gofal y tu allan i oriau, yna byddai llawer o’r bobl hynny wedi gallu osgoi aros am gyfnodau maith mewn adrannau brys.

“Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn hyfforddi ac yn recriwtio 1000 o feddygon yn ychwanegol, fyddai’n sicrhau bod gennym y meddygon sydd eu hangen i ddarparu gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau, yn ogystal â gofalu y gallai meddygon teulu gynnig mwy o apwyntiadau ar yr un diwrnod.” 

Rhannu |