Mwy o Newyddion
Unarddeg o ffoaduriaid o Syria wedi cyrraedd Aberystwyth
Mae 11 o ffoaduriaid o Syria bellach wedi cyrraedd Aberystwyth, ac yn setlo i’w bywydau newydd yn y dref.
Darperir gwaith cefnogol gan y Groes Goch Brydeinig, i helpu’r ffoaduriaid gynefino ac integreiddio yn eu hamgylchedd newydd. Bu iddynt hefyd sicrhau croeso cynnes i’r ffoaduriaid wrth iddyn nhw gyrraedd.
Cydlynir y gwaith hwn gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen sydd wedi ei sefydlu gan y Cyngor ac yn cynnwys cynrychiolwyr o’r holl bartner asiantaethau perthnasol, gan gynnwys Cantref, Tai Ceredigion, Mid Wales Housing, Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Heddlu Dyfed Powys, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, y Groes Goch Brydeinig, Cymdeithas Gofal, Iechyd Cyhoeddus, CAVO, Adran ar gyfer Gwaith a Phensiynau a Chyngor Tref Aberystwyth.
Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Cadeirydd y Grŵp: “Mae’r ffoaduriaid bellach wedi cyrraedd yn saff yn Aberystwyth, ac yn setlo yn dda yn eu milltir sgwâr newydd.
"Mae trigolion Aberystwyth wedi bod yn hynod groesawgar, a dwi’n siwr y bydd hynny o gysur mawr i’r ffoaduriaid wrth iddyn nhw integreiddio yn y gymuned ac, ar ran y Grŵp, hoffaf ddiolch i drigolion y dref am ddangos cymaint o ddyngarwch a haelioni.
"Hefyd, dymunaf ddiolch i’r holl bartneriaid sydd yn parhau i gydweithio mor dda yn ein hymdrechion i gefnogi’r ffoaduriaid hyd eithaf ein gallu.”
Dywedodd Denise John, rheolwr ardal y Groes Goch Brydeinig yng Ngheredigion: “Rydym yn falch iawn â sut mae popeth wedi mynd hyd yma.
"Croesawyd y ffoaduriaid gan ein staff wrth iddyn nhw gyrraedd y maes awyr, ac yna eu hebrwng i Aberystwyth wythnos diwethaf.
"Rydym ni wedi bod yn brysur yn eu helpu gyda pethau ymarferol megis cofrestru gyda meddyg teulu ac arwyddo cytundebau tenantiaid, yn ogystal â phethau syml fel eu helpu gyda’u siopa.
“Mae’r teuluoedd yn setlo yn dda iawn yn eu cartrefi newydd ac yn ddiolchgar tu hwnt am y gefnogaeth y maent wedi ei dderbyn hyd yma.
"Bydd gwersi Saesneg yn cychwyn yr wythnos nesaf a bydd y plant yn cychwyn yn eu ysgolion newydd wedi gwyliau’r Nadolig.
Bydd y Groes Goch yn parhau i ddarparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i’r ffoaduriaid wrth iddyn nhw setlo yn eu bywydau newydd yng Nghymru.
"Rydym yn falch iawn i fod yn gweithio gyda Chyngor Sir Ceredigion a phartner asiantaethau eraill i sicrhau bod y rhai sydd yn ffoi y gwrthdaro treisgar yn Syria yn gallu canfod hafan ddiogel yn Aberystwyth.”
Llun: Cynghorydd Ellen ap Gwynn