Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Rhagfyr 2015

Toriadau'n targedu'r diwydiant llyfrau

Mae AC Plaid Cymru dros Geredigion, Elin Jones, wedi rhybuddio y gallai toriadau i’r cymorth i’r diwydiant cyhoeddi sydd yng nghyllideb drafft Llywodraeth Cymru gael effaith andwyol ar Geredigion.

Mae’r gyllideb, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Lafur Cymru wythnos diwethaf, yn cynnwys toriad o 10.6% mewn cymorth i Gyngor Llyfrau Cymru. Mae’r Cyngor, sydd a’i phencadlys yn Aberystwyth a’i ganolfan ddosbarthu yn ystad ddiwydiannol Glanyrafon gerllaw, yn darparu grantiau i gynorthwyo cyhoeddi llyfrau arbenigol yn Gymraeg a Saesneg, ac yn darparu cymorth dylunio a marchnata i gyhoeddwyr.

Ceir nifer o gwmniau cyhoeddi pwysig yng Ngheredigion, sy’n cyflogi dwsinau o bobl yn y diwydiant.

Dywedodd Elin Jones, AC lleol Plaid Cymru dros Geredigion: “Mae’r diwydiant cyhoeddi yn mynd i dderbyn un o’r toriadau mwyaf oll yng nghyllideb Gymreig 2016.

“Daw’r toriad annisgwyl yma ar ben nifer o flynyddoedd o setliadau ariannol heriol, ac mae’n fygythiad i ddiwydiant sydd wedi bod yn llwyddiant mawr i Geredigion.

"Mae gymaint o gwmniau cyhoeddi ac argraffu wedi eu lleoli yma, sy’n cefnogi awduron, golygyddion, a dylunwyr graffeg.

“Rwy’n gobeithio cwrdd â chynrychiolwyr o’r diwydiant yn fuan. Os bydd y toriad yma yn mynd yn ei flaen, bydd yn niweidiol iawn i’r Cyngor Llyfrau, i’r diwydiannau creadigol yng ngorllewin Cymru, ac hefyd i ran bwysig o economi sir Ceredigion.”

Mae Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru, sy’n cynrychioli’r Cyhoeddwyr Cymraeg, hefyd wedi beirniadu penderfyniad Llywodraeth Cymru i i dorri cyllideb Cyngor Llyfrau Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cwlwm bod y newyddion yma wedi bod yn gwbl annisgwyl o safbwynt y cyhoeddwyr Cymraeg a bod pryder gwirioneddol ynghylch effaith y toriadau ar y sector.

Mae’r diwydiant llyfrau eisoes wedi dioddef toriadau sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf ac yn ôl y Cwlwm bydd yr argymhelliad yma yn gwneud difrod tymor hir i’r diwydiant gan beryglu cynnyrch, cyflogaeth a sgiliau.

Honnir hefyd y gall toriad mor sylweddol â hyn fod â goblygiadau pellgyrhaeddol i’r diwydiannau creadigol yng Nghymru ac i ffyniant a datblygiad yr iaith.

Mewn cyfnod heriol i’r byd cyhoeddi, mae toriad o 10.6% yn sylweddol yn fwy na’r cyfartaledd yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.

 

Rhannu |