Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Rhagfyr 2015

Saith rheswm dros siopa'n lleol y Nadolig hwn

Gall y sêls Nadolig gynrychioli rhwng traean a dwy ran o dair o drosiant blynyddol rhai mân-werthwyr, felly does dim syndod bod mân-werthwyr cenedlaethol yn cynnal ymgyrchoedd hysbysebu enfawr i ddenu siopwyr.

Mae'r cynnydd mewn siopa ar-lein ac ar gyrion trefi'n golygu nad yw pobl yn sylweddoli’n aml fod yna eisoes amrywiaeth fawr o nwyddau a gwasanaethau ar gael yn eu stryd fawr leol. I fynd i'r afael â hyn, mae Bangor wedi creu Ardal Gwella Busnes yn ddiweddar, sy'n dod â busnesau ynghyd i greu ardal siopa fwy bywiog a dengar ar hyd y Stryd Fawr.

Dywedodd Haydn Davies o Fforwm Busnes Bangor: "Mae cyfle gwych y Nadolig hwn i bobl brynu cynnyrch o ansawdd yn lleol ac ar yr un pryd gefnogi busnesau lleol sy'n cyflogi pobl leol.

"Byddwch yn aml yn cael bargen well yn lleol nac y byddwch ar-lein neu o siopau mawr y ddinas, ac mae'n llawer haws ymwneud â siop leol os byddwch angen gwasanaeth neu gyngor yn dilyn prynu rhywbeth.

I gefnogi’r fenter newydd hon, mae Fforwm Busnes Bangor, ynghyd ag academyddion ym Mhrifysgol Bangor, wedi nodi saith rheswm pam y gallai siopa'n lleol fod yn llesol i ni i gyd y Nadolig hwn:

1. Mae'n gynaliadwy

Yn amlwg nid yw prynu cynnyrch fel twrci a moron sydd wedi cael eu cludo hanner ffordd o gwmpas y byd mewn awyren neu wedi cael eu lapio mewn haenau o blastig yn dda i'r amgylchedd. Pan fyddwch yn siopa yn eich siop gigydd, groser, becws neu farchnad ffermwyr lleol, bydd y cynnyrch mwy na thebyg wedi cael ei gynhyrchu neu'i dyfu'n lleol. Felly ar ben gwybod am darddiad y bwyd a gwybod ei fod o ansawdd da, byddwch yn cefnogi ffermwyr a siopwyr lleol.

2. Bydd eich gwario yn hybu'r economi lleol

O'u cymharu â busnesau mwy, mae siopau bychain a chanolig eu maint yn gwario cyfran uwch o lawer o'u hincwm yn yr economi leol, sy'n rhoi hwb i'r holl gymuned.

3. Gallwch brynu rhywbeth unigryw

Bydd siopau lleol annibynnol yn aml yn stocio eitemau sydd wedi cael eu cynhyrchu'n lleol ac nad ydynt ar gael yn unman arall. Felly mae llai o siawns i'ch ffrindiau a'ch teulu dderbyn dwy anrheg Nadolig yr un peth!

4. Byddwch yn aml yn cael gwell bargen a gwell cyngor

Ni fyddwch fel rheol yn cael y 'cyffyrddiad personol' mewn siopau mawr dinesig lle'r ydych yn ddim ond cwsmer arall. Bydd siopau lleol yn aml yn gweithio'n galetach i blesio cwsmeriaid am eich bod yn bwysig iddynt, a byddant y dymuno i chi ddychwelyd yn y dyfodol. Wrth siopa'n lleol byddwch hefyd yn cwrdd â ffrindiau a chydnabod dros gyfnod y Nadolig.

5. Mae'n cynnal gwir gymuned

Mae prysurdeb yng nghanol y dref yn helpu i gefnogi'r gymuned lle'r ydym yn byw, felly dylem ddangos ein cefnogaeth dros gyfnod y Nadolig yn ogystal â thros weddill y flwyddyn.

6. Arbed petrol

Fel y gwŷr pob un ohonom, mae petrol a disel yn ddrud. Felly arbedwch ar y gost (heb sôn am yr amser) o yrru i lawr yr A55, a defnyddiwch yr arian y byddech yn ei wario ar danwydd i brynu anrheg Nadolig arbennig ychwanegol i un o'ch anwyliaid (neu hyd yn oed i chi eich hun!)

7. Caffis a bwytai lleol

Mae caffis a bwytai lleol yn cynnig amrywiaeth helaeth o ddewis ac yn aml yn defnyddio cynnyrch lleol hefyd. Pam teithio am ddwy awr bob ffordd pan fedrwch ymweld â chaffis a bwytai lleol sy'n aml yn fwy blasus ac yn rhatach na'r rheiny mewn dinasoedd mawrion? Gallech drefnu i gwrdd â ffrindiau neu deulu am ginio neu ddiod cyn ei throi hi am y siopau unwaith eto!

Meddai Dr Einir Young, yr arbenigwr ar gynaliadwyedd o Brifysgol Bangor: "Mae llawer o fanteision i brynu'n lleol, o wybod tarddiad y bwyd at gefnogi canol tref sy'n fywiog a phrysur, a thrwy hynny helpu i gynnal y gymuned lle'r ydym yn byw. Yn bwysicaf oll, byddwch hefyd yn dod o hyd i fargeinion gwych wrth gwrs!"

Rhannu |