Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Rhagfyr 2015

Gwynedd yn galw ar Weinidog Diwylliant Llundain i ddiogelu cyllid S4C

Mae diogelu cyllid ar gyfer yr unig sianel deledu Cymraeg yn y byd yn hanfodol, meddai Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, Dyfed Edwards - datganiad a gefnogwyd gan bob aelod o Gyngor Gwynedd mewn cyfarfod diweddar.

Mae gan y sianel deledu S4C, a sefydlwyd yn 1982 dan Ddeddf Darlledu 1981, ddyletswydd statudol i ddarparu gwasanaethau adloniant a newyddion amrywiol yn y Gymraeg ar hyd a lled Cymru a thu hwnt.

“Ond mae S4C yn gwneud llawer mwy na hynny,” eglura’r Cynghorydd Dyfed Edwards, “mae, nid yn unig yn cynrychioli gwasanaeth cyhoeddus Cymraeg sy’n rhannu gwybodaeth, yn addysgu a chynnig adloniant, mae hefyd yn gwneud cyfraniad gwirioneddol i ddyfodol a pharhad yr iaith Gymraeg. Mae'r sianel yn rhan annatod o isadeiledd Cymru, yn union fel y bwriadwyd nôl yn 1982, pan sefydlwyd y sianel.

“I ni yma yng Ngwynedd, lle mae'r rhan fwyaf o wylwyr S4C yn byw, mae yn cynnig llawer mwy. Mae'n rhan hollbwysig o’n diwydiant celfyddydau creadigol bywiog sy'n bwydo rhaglennu S4C, llawer o’r rheiny drwy'r BBC. Y cyd-destun hwn sydd angen i Lywodraeth Dorïaidd yn Llundain ei ddeall wrth wneud unrhyw benderfyniadau cyllidebol."

Mae gan y BBC ganolfan bwysig ym Mangor ac mae nifer o gwmnïau teledu mawr annibynnol wedi eu sefydlu yng Ngwynedd sy'n cyflogi pobl leol Cymraeg eu hiaith, sydd yn ei dro yn cynorthwyo i gynnal gwead economaidd a chymdeithasol cymunedau Gwynedd.

Yn ôl y Cynghorydd Edwards: "Mae cyfeiriad clir yn y Mesur Darlledu gwreiddiol, y dylai S4C gael arian digonol i gyflawni ei rôl o ddarparu gwasanaethau teledu Cymraeg ar hyd a lled Cymru a thu hwnt. Nid wyf yn argyhoeddedig bod Ed Vazey, y Gweinidog Torïaidd sy'n gyfrifol am ddarlledu yn ymwybodol o'i gyfrifoldeb yn hynny o beth."

Ychwanegodd y Cynghorydd Mandy Williams-Davies, sy'n arwain ar yr economi yng Ngwynedd: "Hoffwn ei gwneud hi’n gwbl glir i'r Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan, nad sianel adloniant yn unig yw S4C, mae'n ddiwydiant sy'n cynnig swyddi o ansawdd i drigolion yng Ngwynedd.

"Mae gweithlu y tu ôl i S4C, diwydiant sy'n gweithio o fewn Gwynedd a rhannau eraill o Gymru, gan roi cyfle i bobl leol, nifer ohonynt yn bobl ifanc, i fyw a gweithio yma yng Nghymru a hynny yn eu mamiaith. Mae'r rhain yn swyddi sgiliau o ansawdd sy’n bwydo i'r economi leol.”

Yn ôl Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, Dyfed Edwards: "Mae angen i Siarter newydd y BBC gadarnhau bod y canran o'r drwydded deledu sy'n bwydo S4C yn cael ei ddiogelu tymor hir. Mae’n gwbl annerbyniol bod unrhyw doriadau pellach yn cael eu trosglwyddo i S4C, ac yn sicr nid i'r ganran a delir i’r sianel drwy ffi’r drwydded.

Pleidleisiodd Cynghorwyr Gwynedd o bob cefndir gwleidyddol yn unfrydol i gefnogi galwad Plaid Cymru i ddatgan yn gyhoeddus gwrthwynebiad ffyrnig y sir i unrhyw doriadau pellach i gyllid S4C. Bydd gohebiaeth o'r sir yn cael ei anfon at y Gweinidog a'i adran yn datgan y safbwyntiau hyn."

Llun: Dyfed Edwards

Rhannu |