Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Rhagfyr 2015

Gweithredu i ddiogelu mannau addoli Cymru

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi cynllun newydd i ddiogelu mannau addoli ledled Cymru a chanfod ffyrdd o sicrhau y gallant barhau i fod yn rhan werthfawr o fywyd cymunedau.

Unwaith, roedd mannau addoli wrth galon bywyd diwylliannol a chymdeithasol Cymru, ond bellach mae dyfodol llawer o’r adeiladau hanesyddol hyn mewn perygl.

Mae’n debygol y bydd hyn yn broblem gynyddol, felly mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi cynllun gweithredu i annog cynnal gweithgareddau newydd yn yr adeiladau hyn er mwyn helpu i’w cadw fel asedau cymunedol – boed hynny fel mannau addoli neu at ddibenion eraill.

Mae gan y cynllun ymagwedd traws-sectorol tuag at ddelio â’r heriau. Un o’r camau pwysicaf yn y cynllun, a fydd ymhlith y cyntaf i gael ei weithredu, fydd sefydlu fforwm er mwyn i’r holl sectorau allu rhannu gwybodaeth ac arfer da, trafod ac adolygu eu hanghenion a helpu i lywio’r gwaith er mwyn cyflawni’n effeithiol.

Caiff cyfarfod cyntaf y fforwm ei gynnal tua diwedd mis Ionawr.

Gan siarad cyn mynd ar ymweliad ag Eglwys San Silyn, Wrecsam, er mwyn lansio’r cynllun gweithredu, dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates: “Mae ’na fwy na 3,000 o fannau addoli rhestredig yng Nghymru, sy’n dangos eu pwysigrwydd pensaernïol a pha mor bwysig y maent wedi bod yn hanes Cymru.

“Mae sawl ffactor yn bygwth dyfodol yr adeiladau hyn; mae llai o bobl yn eu mynychu ac mae’r opsiynau o ran beth y gellir gwneud gyda nhw yn y dyfodol yn gyfyngedig.

"Mae bob amser yn drueni gweld yr adeiladau hyfryd hyn yn mynd â’u pen iddynt – yn y pen draw, pan fyddwn yn colli’r adeiladau hyn, rydyn ni’n colli rhan bwysig o’n treftadaeth.

"Rwy’n falch iawn ein bod yn lansio’r cynllun hwn i annog cydweithio er mwyn canfod y ffordd orau o achub yr adeiladau hyn at y dyfodol.”

Mae Eglwys San Silyn yn adeilad rhestredig gradd I. Mae’n dyddio’n ôl i’r bymthegfed ganrif. Caiff ei defnyddio fel eglwys gymunedol gan gynnal cyfarfodydd grwpiau cymunedol yn ogystal â gwasanaethau crefyddol.

Mae wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwaith atgyweirio, gan gynnwys gwaith ar ei dŵr enwog. Mae hyn wedi galluogi trigolion i barhau i ddefnyddio’r eglwys fel man addoli ac at ddibenion cymunedol eraill.

Mae’r cynllun hefyd yn cydnabod gwerth mannau addoli hanesyddol o ran twristiaeth a chaiff hyn ei ategu gan Gynllun Gweithredu ar Dwristiaeth Cred Llywodraeth Cymru. Mae’r cynllun hwnnw’n cydnabod bod twristiaeth cred yn rhan hanfodol o’r profiad o ymweld â Chymru a’i nod yw manteisio ar y buddiannau economaidd sydd ynghlwm wrth hynny er mwyn helpu i gynnal ein mannau addoli.

Hefyd, mae Prosiect Twristiaeth Treftadaeth Llywodraeth Cymru wedi helpu i greu ‘Llwybr Llefydd Llonydd’, sef llwybr o eglwysi a chapeli yng Ngheredigion sy’n croesawu ymwelwyr.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog: “Mae ’na eisoes enghreifftiau gwych ledled Cymru o ffyrdd newydd o ddefnyddio’r adeiladau hanesyddol hyn. Mae rhai’n parhau fel mannau addoli ac mae rhai’n cael eu defnyddio at ddibenion eraill. Yr hyn sy’n glir yw bod yr adeiladau hyn yn bwysig i’n cymunedau ac rwyf wrth fy modd ein bod yn cymryd camau i sicrhau bod yr adeiladau hyn yn hyfyw at y dyfodol.”

Mae’r cynllun  gweithredu’n cefnogi amcanion Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), a gyflwynwyd i’r Cynulliad yn  gynharach eleni. Y Bil hwn fydd yr unig ddeddfwriaeth ar gyfer Cymru’n unig fydd â’r nod o ddiogelu adeiladau a henebion hanesyddol Cymru.

Gallwch weld y Cynllun Gweithredu ar gyfer Mannau Addoli Hanesyddol yma: http://cadw.gov.wales/historicenvironment/policy/historic-places-of-worship/?skip=1&lang=cy
 

Rhannu |