Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Rhagfyr 2015

Croesawu cynllun newydd i ddatblygu parc gwag Bryn Cegin

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon, Hywel Williams AS wedi croesawu’r newyddion fod datblygwr masnachol arbenigol wedi mynegi diddordeb ym Mharc Bryn Cegin ar gyrion Bangor, gyda chynlluniau i drawsnewid y safle gwag i fod yn gyrchfan hamdden, gyda posibilrwydd i greu cannoedd o swyddi newydd.

Mae Liberty Properties, sy’n gyfrifol am brosiectau yn cynnwys Parc Hamdden Cyffordd Llandudno a Pharc Manwerthu Ystwyth yn Aberystwyth wedi cyflwyno cynnig i drawsnewid y safle diwydiannol gwag naw deg erw yn gyrchfan hamdden aml-ddefnydd gyda chyfleusterau yn cynnwys sinema a llefydd bwyta.

Sefydlwyd Parc Bryn Cegin gan Lywodraeth Cymru dros ddeng mlynedd yn ôl gyda'r bwriad o ddarparu cannoedd o swyddi lleol. Bu galwadau am weithredu ar y safle dro ar ôl tro gan Blaid Cymru, trigolion lleol a chynghorwyr a oedd yn pryderu am y diffyg cynnydd yn y safle.

Dywedodd Hywel Williams AS: “Ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu caled i ddatblygu Parc Bryn Cegin, rwy’n croesawu diddordeb Liberty Properties i ddatblygu'r parc at ddibenion hamdden, gyda'r potensial i greu cannoedd o swyddi newydd ar gyfer yr ardal leol.

"Dros y flwyddyn ddiwethaf rwyf wedi cael sawl cyfarfod gyda chwmniau â diddordeb adleoli i Barc Bryn Cegin. Mae'r gymuned leol i gyd wedi cefnogi'r ymgyrch i ddatblygu'r safle a gwireddu ei botensial.

"Bu Plaid Cymru yn lobïo Llywodraeth Lafur Cymru i ddod o hyd i bartner newydd i hyrwyddo'r safle i ddarpar fuddsoddwyr ar ôl blynyddoedd o lusgo eu traed. Mae'r seilwaith i gefnogi unrhyw ddatblygiad eisoes yno.

"Edrychaf ymlaen i edrych yn fanwl ar y cyllun cyffrous hwn gan obeithio gweld ymdrech ar y cyd i ddatblygu Parc Bryn Cegin er budd Dinas Bangor a’r gymuned leol.”

Rhannu |