Mwy o Newyddion
Cau ysgol yn 'warth'
Mae penderfyniad cynghorwyr Gwynedd i gau Ysgol y Parc ger Y Bala yn “warth” ac yn arwydd o “ddifodiant ardaloedd gwledig” y sir yn fwy cyffredinol, yn ôl cynghorydd Llais Gwynedd sy’n galw am fwy o gydweithio a “dim mwy o rwygiadau” wrth geisio trwsio’r sefyllfa.
Mae Alwyn Gruffydd o Dremadog yn dweud ei fod wedi cael profiad personol o “farwolaeth yr iaith Gymraeg” yng nghefn gwlad Gwynedd yn ystod cyfnod canfasio cyn etholiad Cynulliad Mai 5 eleni.
Bellach, mae’n dweud fod yn rhaid i gynghorwyr weithio yn agosach er mwyn ceisio achub y cymunedau hyn.
“Mae be’ sydd wedi digwydd yn Parc yn warth, dydi?” meddai Alwyn Gruffydd wrth Y Cymro ddydd Gwener diwethaf, drannoeth pleidlais gan Gyngor Gwynedd ar y cynllun i ad-drefnu addysg yn ardal Penllyn.
“Mae’n amlwg y bydd Parc yn llenwi efo tai ha’ rŵan, a dyna fo. Dw i wedi gweld yr un peth wedi digwydd mewn llefydd eraill wrth ganfasio eleni…
“Dw i wedi gweld marwolaeth y Gymraeg yng Nghorris, er enghraifft... rhes o dai, a dim ond dau o’r trigolion yn siarad Cymraeg – un yn hen lanc a’r llall yn hen wraig heb blant.
“O’n i’n gwbod, wrth siarad efo nhw, y bydd yr iaith Gymraeg wedi marw unwaith yr ân’ nhw. Fydd yna ddim Cymraeg i’w chlywed yn y lle yna byth eto. Ac mae hynny’n ddychrynllyd."
I ddarllen mwy CLICIWCH YMA