Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Rhagfyr 2015

Gweithredu yn San Steffan i godi oed recriwtio i'r fyddin

Mae AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts wedi gosod gwelliant i'r Mesur Lluoedd Arfog fydd yn cael ei drafod yn Senedd San Steffan fory (dydd Mercher) gyda'r bwriad o godi'r oed recriwtio o 16 i 18.

Gobeithia Ms Roberts y byddai'r gwelliant sydd ar hyn o bryd wedi ei lofnodi gan Blaid Cymru a'r SNP yn dennu cefnogaeth o bob cwr o'r Tŷ Cyffredin ac y gallai'r mater o hawliau plant uno aelodau o bob plaid i weithredu.

Ychwanegodd hi fod pobl ifanc o ardaloedd difreintiedig yn neilltuol o debygol o gael eu recriwtio yn 16 oed am fod y lluoedd arfog yn targedu eu cymunedau yn fwriadol.

Wrth siarad cyn y ddadl yn y Tŷ Cyffredin ddydd Mercher, dywedodd Liz Saville Roberts AS: "Ar hyn o bryd, y DG yw'r unig wlad yn Ewrop sy'n recriwtio i'r lluoedd arfog dan 18 oed.

"Yn llygad y gyfraith, rydych dal yn blentyn os o dan 18 oed ond nid yw hyn yn cael ei gydnabod gan y lluoedd arfog.

"Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ymysg eraill wedi codi pryderon dros recriwtio dan 18 sydd mewn gwirionedd yn caniatau recriwtio plant i'r gwasanaethau milwrol.

"Mae amcangyfrifon yn dangos fod tua 2,500 o blant dan 18 oed wedi eu recriwtio ar hyn o bryd, gyda nifer ohonynt yn droedfilwyr ac felly'n fwy tebygol o gael eu hanafu.

"Mae pobl ifanc mewn ardaloedd difreintiedig yn neilltuol o debygol o ddioddef ergyd ddwbl yn ffurf problemau cymdeithasol-economaidd ynghyd a'r ffaith eu bod yn byw mewn cymunedau sy'n cael eu targedu gan gyrff recriwtio'r lluoedd arfog.

"Rwy'n gobeithio y bydd y gwelliant hwn sy'n ceisio codi'r oedi recriwtio i 18 yn dennu cefnogaeth o ar draws y spectrwm gwleidyddol gan roi'r mater o rol pobl ifanc o fewn y lluoedd arfog ar yr agenda."
 

Rhannu |