Mwy o Newyddion
Plaid yn rhybuddio am ‘brosiect arswyd’ Llafur ar refferendwm yr UE
Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi ymateb i lansio ymgyrch refferendwm UE Llafur trwy rybuddio rhag agwedd ‘prosiect arswyd’.
Dywedodd y gallai ceisio dychryn pobl i bleidleisio dros aros yn yr UE gael yr effaith anghywir trwy greu dicter; galwodd yn hytrach am wneud achos cadarnhaol dros i Gymru aros yn yr UE.
Meddai Leanne Wood: “Mae pobl yn amheus pan fydd gwleidyddion yn mabwysiadu tactegau codi bwganod mewn ymgais i ennill pleidleisiau.
"Mae gormod yn y fantol i Gymru yn y refferendwm sydd ar y gweill am yr UE i fabwysiadu tactegau o’r fath a allai gael yr effaith anghywir. Mae llawer yn amau’r elite gwleidyddol, ac ni wnaiff pregethu wrth bobl ddim ond cadarnhau diffyg ymddiriedaeth pobl.
“Mae Plaid Cymru yn grediniol mai’r ffordd orau i warchod buddiannau cenedlaethol Cymru yw trwy aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd a sefydlwyd yn sgil yr Ail Ryfel Byd i atal rhyfeloedd.
"Rydym yn gwneud achos cadarnhaol dros barhau i fod yn aelodau, ar sail y cyfleoedd mae’r UE yn roi i fusnesau, teuluoedd a chymunedau Cymru. Rydym hefyd o’r farn fod yn rhaid diwygio’r Undeb Ewropeaidd i greu Ewrop sy’n gwasanaethu ei dinasyddion yn well.
“Mae miloedd o brosiectau yng Nghymru yn elwa o gefnogaeth yr UE a miloedd o fusnesau yn elwa o gyrraedd marchnad yr UE.
"Mae defnyddwyr yn elwa o safonau uchel yr UE ar nwyddau a gwasanaethau, ac y mae twristiaeth ar ei ennill o ffiniau hyblyg.
"Dros y blynyddoedd i ddod, bydd arnom angen llais Cymreig cryf wrth y bwrdd Ewropeaidd fel y gallwn chwarae ein rhan i wynebu’r heriau mawr sy’n wynebu ein cyfandir, a hefyd er mwyn manteisio ar y cyfleoedd sydd yn yr UE.
“Nid yn unig y mae ein diwydiant gweithgynhyrchu, er enghraifft, yn elwa o’r farchnad gyffredin ond fe allai elwa mwy os gallwn sicrhau gwarchodaeth gryfach ledled yr UE i’n diwydiannau craidd megis dur. Bydd ein cymunedau ar eu hennill hefyd os gallwn sicrhau camau pendant gan yr UE ar newid hinsawdd.
“Fydd pobl ddim yn cael eu dychryn i bleidleisio un ffordd neu’r llall yn y refferendwm. Rhaid cael achos cadarnhaol dros aelodaeth yr UE sydd hefyd yn cydnabod yr angen i ddiwygio’r UE i’w wneud yn sefydliad mwy atebol, gyda’r dinasyddion yn ganolog iddo – dylai hawliau gweithwyr ac undebau llafur cryf fod ar flaen y gad yn hynny o beth.
“Mae gan Blaid Cymru weledigaeth o Gymru newydd mewn Ewrop newydd.”