Mwy o Newyddion
Cymru'n ailgylchu mwy nag unman arall yn y DU
Mae Cymru'n ailgylchu mwy o wastraff cartref na phob gwlad arall yn y DU.
Yn ôl Ystadegau'r DU am Wastraff a gyhoeddwyd gan Defra heddiw, ailgylchodd cartrefi yng Nghymru 54.8 y cant o'u gwastraff y llynedd (2014). Mae hyn yn cymharu â 44.8 y cant yn Lloegr, 43.6 y cant yng Ngogledd Iwerddon a 41 y cant yn yr Alban.
Yn ystod y pedair blynedd ers i Defra gasglu'r data hwn, mae cartrefi yng Nghymru wedi gwella eu cyfradd ailgylchu o 44 y cant (yn 2010) i bron 55 y cant (yn 2014). Mae hynny bron yn ddeg pwynt canrannol yn uwch na'r cyfartaledd yn y DU (44.9).
Dywedodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Carl Sargeant: "Cymru yw'r unig wlad yn y DU i osod targedau ailgylchu statudol. Mae'r ffaith ein bod ni'n arwain y DU yn hyn o beth yn dangos bod ein gwaith yn talu ffordd. Mae awdurdodau lleol yng Nghymru eisoes wedi taro targed Ewrop i ailgylchu 50 y cant erbyn 2020.
"Mae'n bwysig ein bod ni'n dal ati i ailgylchu i gael y manteision economaidd ac amgylcheddol rydym am eu cyflawni dros Gymru."
Mae ein strategaeth drosfwaol, Tuag at Ddyfodol Diwastraff, yn nodi sut y byddwn yn rheoli gwastraff yng Nghymru i greu manteision i'n heconomi a'n lles cymdeithasol yn ogystal ag i’r amgylchedd. Mae’r strategaeth yn amlinellu’r camau y mae’n rhaid i bob un ohonom eu cymryd os ydym am gyflawni ein huchelgais o ddod yn genedl ailgylchu erbyn 2025 ac yn wlad ddiwastraff erbyn 2050.
Yn gynharach eleni, fe gyhoeddon ni adroddiad cynnydd a daeth y cyflawniadau canlynol i'r golwg:
* Cymru yw'r wlad sy'n ailgylchu'r mwyaf o wastraff trefol yn y DU a hefyd y bedwaredd wlad sy'n perfformio orau o blith aelod-wladwriaethau’r UE.
* Rydym wedi lleihau faint o wastraff sy'n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi 37% rhwng 2010 a 2013.
* Cyrhaeddon ni darged 2020 yr UE ar gyfer faint o wastraff bioddiraddadwy y mae awdurdodau lleol ac eraill yn ei gasglu wyth mlynedd yn gynnar (2012).
Roedd y Gweinidog yn canu clodydd cartrefi yng Nghymru ac awdurdodau lleol am y rôl bwysig maen nhw wedi'i chwarae i gyflawni'r canlyniadau a gyhoeddwyd heddiw.
"Mae'r ffigurau hyn yn dyst i ymrwymiad deiliaid cartrefi ac awdurdodau lleol ar hyd ac ar led Cymru. Bydd gweithio i wneud y mwyaf o'n hadnoddau'n dod â manteision economaidd ac amgylcheddol, ac rwy'n bwriadu parhau i weithio'n galed ag awdurdodau lleol i'w helpu nhw i wella o hyd."