Mwy o Newyddion
Rhybudd i ddymchwel Gwesty Dewi Sant Harlech
Ar yr ail o Ragfyr eleni, cyflwynodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri rybudd i gwmni Aitchison Associates Limited i ddymchwel eu heiddo, sef Gwesty Dewi Sant Harlech yn llwyr ac i glirio’r safle’n gyfan gwbl.
Adeiladwyd y gwesty yn wreiddiol yn 1910 ac yna’i ail adeiladu yn 1922 yn dilyn tân mawr. Am ddegawdau, bu’r gwesty o 60 ystafell wely yn denu cannoedd o olffwyr ac ymwelwyr eraill i aros a mwynhau’r cyfleusterau yno. Ond, yn 2008, caeodd y gwesty ei ddrysau am y tro olaf ac ers hynny, mae wedi sefyll yn wag, a’i gyflwr yn dirywio’n gyflym.
Yn 2009, rhoddodd Awdurdod y Parc ganiatâd cynllunio amodol i ddymchwel y gwesty a neuadd breswyl y coleg ac i adeiladu gwesty newydd gyda 130 o ystafelloedd gwely, 76 o fflatiau gwyliau ynghyd â ffurfio ffordd newydd, gwaith tirlunio a gwaith peirianyddol cysylltiol. Yn anffodus, er gwaethaf derbyn caniatad cynllunio, ni wnaeth y datblygwr fwrw ‘mlaen â’r cynllun.
Yn 2014, gwnaed cais cynllunio arall. Caniatawyd y cais ac er i’r Awdurdod dderbyn sicrwydd gan y datblygwr y byddai’r gwaith yn dechrau ar y datblygiad newydd, does dim byd sylweddol wedi digwydd, ar wahân i adeiladu’n rhannol ran o adeilad i ystlumod.
Meddai Jane Jones yw Uwch Swyddog Cynllunio (Cydymffurfio) yr Awdurdod: “Mae cyflwr adeilad y gwesty wedi dirywio i’r fath raddau fel nad yw’n bosib nac yn ymarferol i gyflawni unrhyw waith atgyweirio bellach: mae fframiau ffenestri wedi pydru, ffenestri dormer wedi syrthio, rhannau o’r to wedi syrthio, ynghyd â nifer o ddiffygion strwythurol eraill, ac mae tu mewn yr adeilad wedi ei ddifrodi’n llwyr.
"Mae’r Awdurdod wedi derbyn llu o gwynion gan drigolion ac ymwelwyr i Harlech am gyflwr gwael y gwesty a sut mae ei olwg hyll yn amharu ar yr ardal gyfagos ac yn rhwystr i ddatblygiad economaidd Harlech.
"Saif y gwesty mewn man amlwg o fewn Harlech, ar safle uchel, wrth ymyl priffordd yr A496. Yn ogystal, mae’n agos i Ardal Gadwraeth Harlech ac yn agos i gastell Harlech sy’n Safle Treftadaeth y Byd.
"Er i’r Awdurdod geisio’n ddyfal i negydu canlyniad boddhaol gyda pherchennog/datblygwr y tir, Aitchison Associates Limited, methu wnaeth y trafodaethau hyn.
"Mae’r ffaith fod y cwmni â’i swyddfa yn Gibratlar, hefyd wedi arafu’r gwaith.
"Bu hi’n broses heriol ac anodd ond rydym yn awyddus iawn i symud ymlaen gyda’r mater hwn fel rhan o Ddeddf Gynllunio Gwlad a Thref 1990, a dechrau achos ffurfiol drwy gyflwyno’r Rhybudd Gorfodaeth hwn.”
Os na wneir apêl yn erbyn y Rhybudd i’r Llys Ynadon, bydd yn weithredol o’r 18fed o Ionawr 2016.
Oherwydd cyfrifoldebau statudol i warchod ystlumod, ni fydd hi’n bosib cyflawni unrhyw waith rhwng misoedd Ebrill a Medi ac felly rhoddwyd cyfnod o 15 mis i’r perchennog gydymffurfio â’r rhybudd.