Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Rhagfyr 2015

Pleidlais Gwobrau'r Selar ar agor

Mae pleidlais gyhoeddus gwobrau cerddorol blynyddol cylchgrawn Y Selar bellach ar agor.

Cyhoeddwyd hefyd tocynnau cynnar ar gyfer noson Gwobrau’r Selar, sy’n un o ddigwyddiadau mwyaf y calendr cerddoriaeth cyfoes Cymraeg, ac sy’n cael ei gynnal ar 20 Chwefror yn Aberystwyth, bellach ar werth.

Ers dechrau Tachwedd mae’r Selar wedi bod yn gwahodd enwebiadau ar gyfer 12 categori y gwobrau, ac mae Panel Gwobrau’r Selar sy’n gymysgedd o gyfranwyr a darllenwyr y cylchgrawn, wedi dewis rhestrau hir ar sail yr enwebiadau hynny.

Mae’r penderfyniad terfynol ynglŷn â’r enillwyr nawr yn ôl yn nwylo’r cyhoedd, ac mae cyfle i unrhyw un fwrw eu pleidlais rhwng hyn a 15 Ionawr. Mae modd pleidleisio ar dudalen Facebook Y Selar neu trwy ddilyn y ddolen yma http://gwobrau.selar.cymru/

Dim ffefrynnau clir

“Y nod ydy ceisio annog cymaint â phosib o bobl i bleidleisio dros yr enillwyr er mwyn gwneud yn siŵr bod y gwobrau’n adlewyrchu barn y cyhoedd,” meddai trefnydd y Gwobrau, Owain Schiavone.

“Dros y blynyddoedd rydym wedi addasu rhywfaint ar y drefn bleidleisio, ac ar sail profiad y gorffennol mae cynnig rhestrau hir ar gyfer y categorïau’n ei gwneud yn haws denu pleidleisiau, ac yn golygu bod llai o wastraff pleidleisiau dros gynnyrch anghymwys ac ati.

“Mae safon cerddoriaeth gyfoes y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn aruthrol o uchel unwaith eto, ac mae’n anodd gweld ffefrynnau clir yn unrhyw un o’r categorïau. Mae’r ffaith nad yw rhai o’r bandiau amlycaf wedi ryddhau cynnyrch efallai’n agor y drws i artistiaid eraill greu eu marc. Bydd hi’n ddiddorol iawn gweld y pleidleisiau’n llifo mewn.”

Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol bydd digwyddiad byw yn cael ei gynnal i wobrwyo’r enillwyr, ac er mwyn rhoi cyfle i’r gynulleidfa ddathlu gyda nhw. Bydd artistiaid gorau’r sin yn perfformio ar lwyfan Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ar ddydd Sadwrn 20 Chwefror, ac mae disgwyl cynulleidfa fwy na’r 800 a heidiodd i’r Gwobrau llynedd.

Mae tocynnau ar werth nawr o wefan Y Selar am y pris cynnar o £12, gyda’r pris yn codi i £15 yn nes i’r dyddiad. 

Lluniau: -  Osian Williams  o enillwyr ‘Band Gorau 2014’, sef Candelas, ac Ywain Gwynedd a enillodd 3 gwobr (Artist Unigol, Record Hir Orau, Cân Orau).

Lluniau gan Y Selar / Celf Calon  

Rhannu |