Mwy o Newyddion
Colli pwysau gyda Hywel Gwynfryn!
Fyddwch chi’n awyddus i golli pwysau ar ôl y Nadolig? A fyddai’n haws dyfalbarhau wrth golli pwysau gyda chriw o ffrindiau? Os felly, beth am ymuno gyda Her Hywel, a cholli pwysau gyda Hywel Gwynfryn i godi arian tuag at Gronfa Leol Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn!
Mae croeso i unrhyw un sy’n awyddus i golli pwysau i ymuno yn yr her – does dim rhaid byw yn Ynys Môn – a bydd Hywel Gwynfryn – yr hogyn o Langefni – yn arwain yr ymgyrch wrth iddo yntau fynd ati i golli pwysau ar ddechrau’r flwyddyn.
Meddai Hywel, “Mae llawer ohonom ni’n ei gorwneud hi dros y ‘Dolig, ac yna’n difaru ar ddechrau mis Ionawr. Ond peth anodd yw cadw at ddeiet wrth fynd ati i golli pwysau ar eich pen eich hun. Felly, beth am ymuno gyda mi a mynd ati i golli pwysau i godi arian?
“Mae’r Eisteddfod yn dychwelyd i Fôn am y tro cyntaf ers bron i ugain mlynedd yn 2017, ac rydan ni i gyd yn awyddus i fod yn rhan o’r ymgyrch godi arian er mwyn sicrhau ei llwyddiant. Does dim rhaid byw ar yr ynys i fod yn rhan o’r hwyl - rydan ni’n chwilio am dimau colli pwysau o bob rhan o Gymru - felly os oes ‘na bwys neu ddau yn eich poeni chi, ymunwch gyda ni a throi’r pwysi i mewn i bunnoedd er budd yr Eisteddfod!”
Bydd yr ymgyrch yn cychwyn yn fuan yn y flwyddyn newydd, ac mae’n hawdd iawn cymryd rhan yn yr her. Bydd angen i chi greu tîm o hyd at bum person a’r bwriad yw casglu pwyntiau wrth golli pwysau a chodi arian. Bydd pob tîm yn derbyn pwynt am bob pwys a gollir, a phwynt arall am bob punt o nawdd a godir. Ar ddiwedd y broses, bydd y tri thîm gyda’r nifer mwyaf o bwyntiau’n ennill gwobr.
Mae dau ddiwrnod pwyso wedi’u trefnu ar gyfer y timau ar gychwyn yr her. Gellir mynd i Enzone ym Modffordd, Ynys Môn ar 6 Ionawr neu i Cartio Môn i gael eich pwyso ar 7 Ionawr. Yn ystod y sesiynau hyn, bydd modd cael sgwrs gyda dietegydd, er mwyn eich helpu i greu cynllun bwyta arbennig wedi’i deilwra i chi. Bydd Eirian Williams o gwmni Cartio Môn a Mark Humphreys o Enzone hefyd yn cynnig ambell syniad ac awgrym i’ch helpu chi dros yr wythnosau nesaf.
Bydd cymorth ar gael ar gyfer unrhyw un sydd eisiau hwb bach ychwanegol, sef sesiwn ymarfer corff wythnosol yn rhad ac am ddim yn Cartio Môn ar nos Sul neu nos Lun, sesiwn ymarfer corff wythnosol yn Enzone, a sesiwn nofio neu ymarfer corff yn rhad ac am ddim yn un o ganolfannau hamdden Ynys Môn.
Daw’r her i ben ar benwythnos y Pasg ar ddiwedd mis Mawrth, pan fydd pawb yn cael eu pwyso er mwyn gweld faint mae’r timau wedi’u colli dros dri mis cyntaf y flwyddyn. Os ydych yn byw y tu allan i Ynys Môn, gallwch anfon eich pwysau ar ddechrau a diwedd yr her atom er mwyn eich cynnwys yn y sialens.
Bydd y timau buddugol yn derbyn gwobr ac mae’r rhain yn cynnwys hanner diwrnod yn Spa Neuadd Tre-Ysgawen, hanner diwrnod yn padl-fyrddio arfordir Môn gyda chwmni Pellennig a reid ar hyd Afon Menai ar gwch antur y Rib-Ride.
Bydd pob tîm yn codi arian at Gronfa Leol Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn, a gallwch gyfrannu’r arian nawdd tuag at bwyllgor apêl eich ardal leol.
Am ragor o wybodaeth a’r amodau, ewch i www.eisteddfod.cymru/her-hywel, ffoniwch 07856 606 673 neu ebostiwch herhywel@gmail.com.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn ger Bodedern o 4-12 Awst 2017. Am ragor o wybodaeth ac i fod yn rhan o’r trefniadau ewch i www.eisteddfod.cymru