Mwy o Newyddion
Angen gweithredu mwy pendant gan Gymru yn dilyn Cytundeb COP21
Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi croesawu’r ffaith fod bron i 200 o wledydd wedi llwyddo i ddod i gytundeb yn y gynhadledd Newid Hinsawdd – COP21 – ym Mharis, ond mae wedi rhybuddio bod yn rhaid i lywodraethau weithredu ei ddarpariaethau yn syth.
Dywedodd Leanne Wood: “Rwy’n croesawu’r ffaith fod bron i ddau gant o wladwriaethau wedi llwyddo i ddod i gytundeb ar fater sydd fel arfer yn anodd dod i gonsensws byd-eang arno.
"Mae Plaid Cymru hefyd yn cydnabod fod ymrwymiad i ymdrechu i gyfyngu tymheredd y byd yn fwy fyth i 1.5C fel cam arwyddocaol. Rhaid i weithredu hyn fod yn fater o frys i bob llywodraeth, gan gynnwys ein hun ni.
“Newid hinsawdd yw’r bygythiad unigol mwyaf i ddynoliaeth a’r amgylchedd naturiol. Gallai methu â gweithredu’n bendant yn awr wneud unrhyw gytundeb byd-eang yn ddiwerth. Mae cytundeb COP21 yn rhoi’r fframwaith ar gyfer symud ymlaen, a bydd angen i bob cenedl a gwladwriaeth wneud mwy.
“Mae Plaid Cymru yn benderfynol o weld Cymru yn chwarae ei rhan lawn, a byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DG i wneud yr un fath.
“Roedd Cymru unwaith yn arwain y byd mewn ynni seiliedig ar garbon, ac y mae’n amlwg fod gennym botensial i arwain y byd eto mewn ynni adnewyddol. Fodd bynnag, dim ond 10.1 y cant o’r trydan yr ydym yn gynhyrchu ar hyn o bryd sy’n dod o ffynonellau adnewyddol; mae hyn yn cymharu â 14.9% i’r DG gyfan a 32% yn yr Alban.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DG weithredu yn awr a chyflwyno polisïau fydd yn cyrraedd y targedau y cytunwyd arnynt yn fyd-eang.
“Mae Plaid Cymru yn cefnogi’r sector ynni adnewyddol yng Nghymru a buasem yn cynyddu’r rhaglenni ôl-ffitio i wneud cartrefi yn fwy ynni-effeithlon; ac yn cwrdd ag anghenion tymor-hir Cymru am drydan trwy ffynonellau adnewyddol, yn enwedig trwy hybu cynhyrchu ynni adnewyddol cymunedol.
“Bydd llywodraeth Plaid Cymru o fis Mai ymlaen yn rhoi blaenoriaeth i leihau carbon ac yn sicrhau datblygu economaidd cynaliadwy i’n cenedl fel ein cyfraniad i ymdrechion byd-eang i fynd i’r afael â newid hinsawdd.”